Y Newyddion Diweddaraf

No documents found.

Digwyddiadau

Anifeiliaid Anwes ac Anifeiliaid

Burns Pet Nutrition

Nod Burns yw cynhyrchu deiet cyfannol o’r ansawdd gorau ar gyfer c?n, cathod a chwningod sy’n bodloni eu hamrywiol ofynion o ran maeth ac yn rhoi sylfaen i feithrin iechyd da.
Mae Burns Real Food wedi’i seilio ar ddeiet cartref ac fe’i datblygwyd oherwydd pryderon John Burns ynghylch ansawdd a math y cynhwysion oedd yn cael eu defnyddio mewn nifer o fwydydd a ddarperir yn fasnachol ar gyfer anifeiliaid anwes.

Mae pob deiet Burns ar gyfer c?n a chathod yn hypoalergenig ac yn rhydd o gyflasau, lliwiau a chadwolion artiffisial.
Cwmni teuluol yw Burns sy’n rhoi pwyslais mawr ar ansawdd a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae’n cefnogi nifer o elusennau a mudiadau yn lleol ac ymhell ac mae’n gweithio’n galed i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Burns Pet Nutrition Ltd, Heol y Fferi, Cydweli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA17 5EJ
Ffôn: 01554 890482 (Dydd Llun- Dydd Gwener 9am - 5pm)
Gwerthiant ac Ymholiadau Cyffredinol: 0800 018 18 90 (Dydd Llun – Dydd Gwener 9am - 5pm)
Llinell Gymorth Maeth Ddi-dâl: 0800 083 66 96 (Dydd Llun – Dydd Gwener 9am - 5pm)
Ffacs: 01554 891476
www.burnspet.co.uk

Lizzies Barn Animal Sanctuary

Fel y noda’r enw ysgubor yw Lizzie's Barn ond un sydd wedi’i haddasu’n arbennig gan fod yn well gennym adeilad felly na chytiau. Amgylchynir yr ysgubor gan 10 erw o dir ymarfer. Bydd rhai o’r c?n yn aros gyda ni am byth oherwydd eu bod yn hen neu’n sâl, bydd eraill fel y rhai sydd wedi’u rhestru isod yn mynd i gartrefi newydd. Mae llawer o’n gwaith yn ymwneud â ch?n sydd wedi’u gadael a ch?n bach a wrthodwyd gan fridwyr masnachol. Mae’r noddfa hon yn gallu cynnig profiad cymdeithasol llawn iddynt drwy gymysgu gyda phobl, c?n eraill, cathod, ceffylau a geifr gan fod hynny’n hanfodol ar gyfer eu datblygiad.
C?n mewn angen brys am gartref.

Er ein bod yn ceisio diweddaru’n gwefan mor aml â phosib rhaid cofio bod c?n yn cyrraedd ac yn cael cartrefi newydd yn ddyddiol.
www.lizziesbarn.dogpages.org.uk
E-bost: rehoming.lizziesbarn@googlemail.com

Mike’s Donkeys Hire.

Asynnod i’w marchogaeth ar gyfer partïon plant – garddwesti – carnifalau –achlysuron – gwaith teledu – ail-greu digwyddiadau.  Maent ar gael hefyd ar gyfer cartrefi preswyl a chartrefi gofal.

Ffôn: 07779 6920
www.mikesdonkeys.co.uk

<< Back to Directory

Switch to MOBILE version