3.jpg

Y Newyddion Diweddaraf

No documents found.

Digwyddiadau

Atyniadau

Castell Cydweli

Castell Cydweli yw un o gyfrinachau gorau Cymru. Wedi’i adeiladu ar ddibyn serth uwchlaw Afon Gwendraeth mae’n adlewyrchiad o’r canol oesoedd. Mae mewn cyflwr eithriadol o dda ac mae’r porthdy deu-d?r anferth bron â chyrraedd ei uchder gwreiddiol.

picture of kidwelly castle and link to official web site

Priordy ac Eglwys y Plwyf y Santes Fair

Fe’i hadeiladwyd oddeutu 1320 yn Briordy Benedictaidd cyn y Diwygiad. Bernir mai’r t?r syml â’i feindwr urddasol yw nodwedd bensaernïol fwyaf nodedig yr adeilad cyfan.

picture of st mary's church kidwelly and link to more information

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli

Canolfan sy’n diogelu a dehongli’r broses draddodiadol o wneud tun â llaw. Cyfle i’r cyhoedd gael mynediad i weithiau llaw.

picture of machine at kidwelly industrial museum and link to museum web site

Glan yr Afon a'r Lladd-dy

Yn y cyfnod y defnyddiwyd y lladd-dy morfa heli oedd yr ardal sydd bellach yn cael ei adnabod fel y warchodfa natur leol yng Nglan yr Afon. Mae adroddiad diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol leol, Cambria, yn dangos bod nodweddion unigryw iawn yn perthyn i’r adeilad nas gwelir mewn unrhyw adeilad arall yn Ne Cymru.

picture of glan yr afan slaughterhouse kidwelly and link to more information

Camlas Kymer

Yn 1766 a 1788 adeiladodd Thomas Kymer ddoc a chamlas tair milltir o hyd i gludo glo o’i byllau glo ger Carwe. Mae darn sylweddol o’r gamlas hanesyddol hon wedi cael ei glanhau ac mae rhan o’r hen gei wedi cael ei ailadeiladu.

picture of kymer's canal kidwelly

Y Cei

Dirywiodd  y dref yn y 16eg ganrif a hynny’n bennaf gan fod Aber y Gwendraeth yn llenwi gyda llaid. Fodd bynnag adfywiwyd y dref yn y18fed ganrif pan ddechreuwyd allforio glo o Gymoedd y Gwendraeth. Adeiladwyd iardiau glo a glanfeydd ar hyd glannau’r afon islaw’r dref a sefydlwyd iard adeiladu llongau ar y safle lle saif y Capel Methodistaidd Saesneg heddiw.

picture of kidwelly quay

Cae Rasio Ffos Las

Dyma’r cwrs rasio newydd cyntaf ym Mhrydain ers 80 o flynyddoedd.  Bydd y prosiect hefyd yn datblygu’n ganolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer marchogaeth drwy gynnwys cyfleusterau ymarfer, cylchoedd ar gyfer neidio a hyfforddi ceffylau, cyfleusterau pwynt-i-bwynt a chyrsiau gornestau. Mae’r cae  rasio yn cynnwys trac hirgrwn 1 milltir a 4 ystaden o hyd sy’n gallu darparu ar gyfer rasio dros y clwydi a rasio ar y fflat.

picture of horses racing at ffos las horse racing course carway kidwelly and link to official ffos las web site

Canolfan Rasio Moduron Pen-bre

Mae Pen-bre yn darparu cyfleusterau rasio ar gyfer ceir, beiciau modur, certiau a thryciau.  Caiff ralïau a sbrintiau eu cynnal yma hefyd . Yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau rasio ceir gan dimau a chyrff corfforaethol mae yma nifer o ysgolion dysgu rasio.

picture of motor racing and link to official pembrey motor racing circuit nr kidwelly

Parc Gwledig Pen-bre

Mae Parc Gwledig Pen-bre wedi’i leoli rhyw 3 milltir o Gydweli. Mae’r 300,000 o ymwelwyr sy’n cael eu denu yma bob blwyddyn yn mwynhau heddwch a llonyddwch coedwig Pen-bre a’r traeth saith milltir o hyd yng Nghefn Sidan. Mae’n Barc Gwledig glan môr godidog lle gallwch fwynhau’r traeth, mannau picnic yn y coetir, llethr sgïo sych, marchogaeth ceffylau, tir hwylio, cyfeiriadu, paraesgyn, mini-reilffordd a grin pytio.

picture of cefn sidan and pembrey country park and link to official web page

Canolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir - Penclacwydd

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth gan y naturiaethwr diweddar, Syr Peter Scott, yn 1946 yn Slimbridge, Swydd Caerloyw. Mae Canolfan Penclacwydd yn ymestyn dros ryw 200 erw o forfeydd heli lle mae rhannau wedi’u dynodi yn barthau o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae yma gyfleusterau heb eu hail sy’n cynnwys rhodfeydd penodol, cuddfannau, golygfeydd godidog o’r aber, deorfa, canolfan ymwelwyr a siop goffi. Caiff ei chydnabod yn ardal o bwysigrwydd rhyngwladol i adar hirgoes.

picture of children in a boat at penclacwydd wildfowl and wetlands trust centre llanelli nr kidwelly

Switch to MOBILE version