Dyma fanylion y Banciau Bwyd mae CETMA yn eu trefnu.
Banc Bwyd Brys Canolfan Fusnes CETMA
Mae’r Banc Bwyd yma yn cefnogi pobl sy’n methu defnyddio Banc Bwyd yn arferol, yn ardal Llanelli.
Mae’r banc bwyd ar agor dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, o tua 10yb nes 2yp.
Gellir cysylltu â’r Banc Bwyd drwy e-bost surplus@cetma.org.uk neu drwy ei tudalen Facebook: https://www.facebook.com/surplusfoodllanelli/
Banc Bwyd Penbre a Phorth Tywyn
Mae’r banc bwyd yn gwasanaethu ardaloedd Penbre a Phorth Tywyn, Cydweli, Trimsaran, Carwe, Pwll a Phontiets
Mae’r banc bwyd ar agor dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, o tua 10yb nes 2yp.
Gellir cysylltu â’r Banc Bwyd drwy e-bost pbpfoodbank@cetma.org.uk neu drwy ei tudalen Facebook: https://www.facebook.com/PBPfoodbank/
Dylid gwneud cais am gymroth mor fuan â phosib yn ystod y dydd er mwyn bod cludiant y bwyd yn gallu digwydd yn ystod y prynhawn.
Sefydliad: Canolfan Tywysoges Gwenllian
Manylion cyswllt: Cyng. Jeannete Gilasbey, 01554 892729 / 07773 473311
Gofynnir i sefydliadau cyswllt eraill gysylltu gyda’r Cyngor Tref fel y gallwn rannu eich manylion ar ein gwefan. Danfonwch eich manylion cyswllt at towncouncil@kidwelly.gov.uk