HYSBYSIAD CYHOEDDUS
Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
Fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991
Cau Heol i Draffig
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn hysbysu trwy hyn o Fehefin 22ain 2020 na chaniateir i neb i achosi unrhyw gerbyd deithio ar hyd y darn ffordd a adwaenir fel C2068, Pedair Heol, Cydweli, o'i gyffordd gyda'r C2057 am bellter o 50 metr i'r gogledd-orllewin.
Mae angen cau'r ffordd tra bod Dŵr Cymru yn gwneud gwaith cynhaliaeth ar frys.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sydd am deithio i'r gogledd-orllewin bydd parhau ar ffordd y C2057 i gyfeiriad y de-orllewin at ei gyffordd gyda'r U2241, Heol Yr Ysgol. Wrth y gyffordd, bydd angen troi i'r dde a pharau mewn cyfeiriad i'r gogledd-orllewin ar hyd y ffordd U2241 i'w gyffordd gyda'r U2226, Heol Horeb. Wrth y gyffordd, trowch i'r dde a pharhau i'r gogledd-ddwyrain ar hyd yr U2226 i'w gyffordd gyda'r C2068 wrth fynd heibio'r cartref a adwaenir fel Golwg Yr Allt. Ar y gyffordd, trowch i'r dde a pharhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ac yna i'r de-ddwyrain ar hyd yr C2068 wrth fynd heibio'r cartrefi a adwaenir fel The Willows a Haul-Y-Bryn er mwyn dychwelyd i bwynt sydd i'r gogledd-orllewin o'r cyfyngiad. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio i'r de-ddwyrain.
Bydd yr Hysbysiad yma mewn grym am gyfnod na fydd yn hirach nag un diwrnod ar hugain lle mae'n bosib y bydd yn cael ei ymestyn gan Gyfyngiad Dros Dro dan Adran14(1) o'r un Ddeddf.
Cliciwch ar y llun er mwyn gweld copi PDF o'r map
DYDDIEDIG O'R 22 DIWRNOD O FEHEFIN 2020
Mrs Ruth Mullen B.S.c.
Cyfarwyddwr yr Amgylchedd
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1JP