YNGHYLCH : CAU FFORDD DROS DRO - B4308 STRYD Y SARN, CYDWELI
Mae cais wedi dod i law am gau dros dro ffordd y B4308, Stryd y Sarn, Cydweli, o'i chyffordd â Heol Fair am bellter o 61 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn i Dŵr Cymru gyflawni gwaith atgyweirio o 0900 o'r gloch ddydd Sul 14 Gorffennaf, 2019 am ddiwrnod.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-ddwyrain fydd mynd i gyfeiriad y gogledd-orllewin / gogledd-ddwyrain ar hyd y B4308 hyd at ei chyffordd â chylchfan Parc y Bocs. Wrth y gylchfan, defnyddio'r ail allanfa a theithio tua'r de-ddwyrain / de-orllewin ar hyd yr A484 hyd at ei chyffordd â chylchfan Pont yr Hyd. Wrth y gylchfan, dewis yr ail allanfa a theithio i'r gogledd-orllewin / gogledd ar hyd y B4308 i ddychwelyd i fan sydd i'r de-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ynghau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd-orllewin.