Kidwelly Town Council Logo
Menu

CAU FFORDD DROS DRO - U2230, HEOL CAPEL TEILO, CYDWELI

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro ffordd yr U2230, Heol Capel Teilo, Cydweli o fan sydd 650 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r gyffordd â'r B4308 am bellter o 600 metr tua'r gogledd / gogledd-orllewin.

Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i MJ Quinn osod polyn newydd ar y llain o 09:00 ddydd Gwener 13 Awst 2021 am gyfnod o 1 diwrnod.

Y ffordd arall ar gyfer traffig sydd am deithio tua'r de fydd teithio ar hyd yr U2230 i gyfeiriad y gogledd-orllewin hyd at y gyffordd â'r C2057 (Heol y Meinciau). Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr C2057 (Heol y Meinciau) i gyfeiriad y De-orllewin hyd at ei chyffordd â'r A484 gan fynd heibio i eiddo o'r enw Swn-y-Mor a Golygfa’r Cwm. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr A484 i gyfeiriad y de-orllewin hyd at y gyffordd â'r B4308. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd y B4308 i gyfeiriad y De-ddwyrain hyd at ei chyffordd â'r U2230 (Heol Capel Teilo) gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Muddlescwm Cottages a Heatherstan Farm. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr U2230, Heol Capel Teilo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r de o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld cynllun (nad yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd a gaeir ynghyd â'r ffordd arall.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.