Kidwelly Town Council Logo
Menu

CAU FFORDD DROS DRO – Y B4308 STRYD Y SARN A HEOL FAIR, CYDWELI

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro y B4308 Stryd y Sarn o'r gyffordd â Heol Fair am bellter o 120 metr tua'r gogledd-orllewin ac o'r gyffordd â Heol Fair am bellter o 161 metr tua'r de-ddwyrain rhwng 08:30 a 15:00 ddydd Llun 5 Gorffennaf. Hefyd, y B4308 Heol Fair o'r gyffordd â Stryd y Sarn am bellter o 251 metr tua'r gogledd-ddwyrain rhwng 08:00 a 16:30 ddydd Mawrth 6 Gorffennaf 2021.

Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth y Gyngor Sir Caerfyrddin gyflawni gwaith cynnal a chadw brys yn Neuadd y Dref, Cydweli.

Y llwybr arall fydd:

Y B4308 Stryd y Sarn

Y llwybr arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-ddwyrain fydd mynd i gyfeiriad y gogledd-orllewin i'r gogledd-ddwyrain ar hyd y B4308 Stryd y Bont a Heol Ddŵr hyd at y gyffordd â chylchfan Parc y Bocs. Wrth y gylchfan, defnyddio'r ail allanfa a pharhau tua'r de-ddwyrain i'r de-orllewin ar hyd yr A484 ffordd osgoi Cydweli hyd at y gyffordd â chylchfan Pont yr Hyd. Wrth y gylchfan, defnyddio'r ail allanfa a pharhau tua'r gogledd-orllewin i'r gogledd ar hyd y B4308 Heol Pen-bre, Banc Pendre a Stryd y Sarn er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r de-orllewin o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd-orllewin.

Y B4308 Heol Fair

Y llwybr arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd-ddwyrain fydd mynd i gyfeiriad y gogledd-orllewin i'r gogledd-ddwyrain ar hyd y B4308 Stryd y Bont a Heol Ddŵr hyd at y gyffordd â chylchfan Parc y Bocs. Wrth y gylchfan, defnyddio'r ail allanfa a pharhau tua'r de-ddwyrain i'r de-orllewin ar hyd yr A484 ffordd osgoi Cydweli hyd at y gyffordd a Heol y Prior. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau tua'r de-orllewin ar hyd Heol y Prior er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r gogledd-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-orllewin.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld cynllun (nad yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd sydd i'w gau a'r ffyrdd eraill y gall teithwyr fynd arnynt.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.