Kidwelly Town Council Logo
Menu

CAU FFORDD DROS DRO – YR U2242, MYNYDDYGARREG, CYDWELI

CAU FFORDD DROS DRO – YR U2242, MYNYDDYGARREG, CYDWELI.

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr U2242, Mynyddygarreg, Cydweli, o'r gyffordd â Golwg y Tŵr am bellter o 50 metr tua'r gogledd-orllewin.

Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i MJ Quinn wneud gwaith gosod o ddydd Llun 12 Ebrill 2021 am gyfnod o 3 diwrnod.

Y ffordd arall ar gyfer traffig sydd am deithio tua'r gogledd-orllewin fydd mynd ar hyd yr U2242 tua'r de-ddwyrain hyd at y gyffordd â'r U2241 (Heol yr Ysgol). Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio ar hyd Heol yr Ysgol tua'r de-ddwyrain hyd at y gyffordd â'r C2057 (Heol y Meinciau) gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Tan y Bryn. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio ar hyd yr C2057 tua'r de-orllewin hyd at y gyffordd â'r U2229, (Heol Llangadog). Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio ar hyd yr U2229 tua'r gogledd-ddwyrain hyd at y gyffordd â'r U2242 gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Felindre Lodge. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio ar hyd yr U2242 tua'r gogledd-ddwyrain/de-ddwyrain gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Church View i ddychwelyd i fan sydd i'r gogledd-orllewin o'r man lle mae'r ffordd ynghau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-ddwyrain.

Dilynwch y dolenni canlynol er mwyn gweld cynllun (nad yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd a gaeir ynghyd â'r ffordd arall.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.