Kidwelly Town Council Logo
Menu

Clybiau, Mudiadau a Chymdeithasau


Clwb Camerau Cydweli

Clwb Camerau Cydweli
Mae'r clwb yn cwrdd bob nos Fercher rhwng 7.00-9.00 yr hwyr yng Nghanolfan Tywysoges Gwenllian, Hillfield Villas. Mae croeso i bawb - o ddechreuwyr i rai profiadol.


Clwb Probus Cydweli

Clwb Probus Cydweli
Rydym yn darparu man cyfarfod rheolaidd ar gyfer dynion, sydd ar ôl ymddeol neu wedi hanner ymddeol yn dymuno cwrdd â dynion o dan yr un amgylchiadau ac sy'n rhannu'r un diddordebau.


Cor Gwyl Cydweli

Cor Gwyl Cydweli
Mae Côr Gŵyl Cydweli yn gôr llais cymysg a ffurfiwyd ym 1984. Mae'r côr yn perfformio repertoire amrywiol, o ganeuon cysegredig a chlasurol i sioeau cerdd a chaneuon poblogaidd.


Cor Meibion Dyffryn Tywi

Cor Meibion Dyffryn Tywi
Mae Côr Meibion Dyffryn Tywi yn cwrdd bob nos Fawrth yn Y Llew Coch, Llandyfaelog am 7.30. Mae croeso i ymwelwyr ddod i'r ymarferion.



Cymdeithas Efeillio Cydweli

Cymdeithas Efeillio Cydweli
Mae'r Gymdeithas yn hyrwyddo meithrin dealltwriaeth a pharch tuag at wahanol ddiwylliannau ac ieithoedd drwy ddigwyddiadau ac ymweliadau. Mae'n ymroddedig at ddatblygu ymweliadau cyfnewid rhwng trigolion Cydweli a'i gefeilldref St Jacut de la mer, ar gyfer budd economaidd a chymdeithasol y naill a'r llall.


Cymdeithas Garddwriaethol Cydweli

Cymdeithas Garddwriaethol Cydweli
Sioe flodau, llysiau a chrefftau blynyddol.


Cymdeithas Hanes Lleol Cydweli

Cymdeithas Hanes Lleol Cydweli
Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo diddordeb mewn hanes Cydweli a darparu modd, trwy ymchwil, i'w drysori ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli

Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli
Lleolir tir Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli ar Gae Maliphant, cae y tu ôl i Heol Fair. Gall aelodau rentu hanner llain neu leiniau llawn yn flynyddol.


Grwp Sgowtiaid 1st  Kidwelly

Grwp Sgowtiaid 1st Kidwelly
Diben y sgowtiaid yw ennyn diddordeb a chefnogi pobl ifanc yn eu datblygiad personol, gan eu grymuso i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas.


Pwyllgor Lles Cydweli

Pwyllgor Lles Cydweli
Codi arian i bob sefydliad yn y gymuned trwy Foreau Coffi a Charnifal Blynyddol. Cynhelir cyfarfodydd bob ail ddydd Llun o'r mis.


Tir Cyffredin Cydweli

Tir Cyffredin Cydweli
Grŵp o wirfoddolwyr amgylcheddol yw Tir Cyffredin Cydweli a ffurfiwyd llynedd (2019) fel cangen o Gydweithfa Ynni Cwm Gwendraeth (GVEC), y prosiect gardd ynni solar a eginodd o grŵp gwirfoddol Glan yr Afon a ffurfiwyd yn 2017. Mae gennym ystod o sgiliau ymarferol, garddwriaeth ac addysgu ac rydym yn ymroddedig i weithio'n lleol i wrthdroi'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol a chymryd ein rhan i greu cymuned gref hunanddigonol yma. Felly, ‘meddylfryd byd-eang, camau lleol.’


Tŷ Golau

Tŷ Golau
Mae Ty-Golau yn elusen sy'n gweithio er budd pobl dros hanner cant oed sy'n dioddef o anghofrwydd neu salwch fel dementia neu Alzheimer's.


Undeb Mamau Eglwys y Santes Fair

Undeb Mamau Eglwys y Santes Fair
Rydym yn cwrdd ar ail ddydd Mercher y mis yn Ystafelloedd y Plwyf (2 yr hwyr a 7 yr hwyr). Ein nod a'n pwrpas yw dangos y ffydd Gristnogol ar waith drwy drawsnewidiad cymunedau ledled y byd, trwy feithrin teulu yn ei ffurf niferus. Drwy hefyd gefnogi a hyrwyddo priodas, cynnal cymrodoriaeth fyd-eang, unedig mewn gweddi, addoliad a gwasanaeth.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.