Y Newyddion Diweddaraf

No documents found.

Digwyddiadau

Clybiau a Chymdeithasau

Clwb Camerâu Cydweli

Mae’r clwb yn cyfarfod bob nos Fercher o 7.00-9.00pm yn Ystafell Gynadledda Uchaf, Canolfan Tywysoges Gwenllïan, Hillfield Villas. Mae croeso cynnes i bawb, o ddechreuwyr i bobl brofiadol. Rydym hefyd yn cynnal Dosbarthiadau Goleuo Stiwdio bob nos Fawrth o 7.00-9.00pm. Yma eto mae croeso i ddechreuwyr a phobl brofiadol.

Cadeirydd: Brian Rees
Ffôn: 01554890603

Ysgrifennydd: Y Cyng. Fran Burke-Lloyd

Trysorydd: Mavis Evans

Cymdeithas Ddinesig Cydweli

Mae’r gymdeithas yn cyfarfod ar yr ail ddydd Iau o bob mis, yng Nghapel Sul Cydweli. Yn ystod Amser Haf Prydain cynhelir y cyfarfodydd am 7.00p.m. Yn ystod Amser Safonol Greenwich cynhelir y cyfarfodydd am 2.00.p.m.

Mrs Jan Preece
Ffôn: 01554 891426
Ysgrifennydd Anrhydeddus: Ffôn:01554 890371

Pwyllgor Lles Cydweli

Yn codi arian i bob mudiad yn y gymuned drwy gynnal Boreau Coffi a Charnifal Blynyddol.  Cynhelir y cyfarfodydd ar yr ail ddydd Llun o bob mis.

Mrs H Cresser
Ffôn: 01554 890567

Fforwm Tref Cydweli

Mrs J. Bettel-Higgins
Ffôn: 01554 891599

Cymdeithas Arddwriaethol Cydweli

Sioe Flynyddol o Lysiau, Blodau a Chrefftau.
Y sioe nesaf: 40fed Sioe Flynyddol, Canolfan Tywysoges Gwenllïan, 2:15 22ain Awst 2009
Mrs Lynda Lewis ( Cadeirydd )

Ffôn: - 01554 890345
neu
Mr Michael Rees
Ffôn: - 01554 890085

Clwb Garddio Cydweli a’r Cylch

Jean Fox
Ffôn: 01554 891344
Lawrlwytho Calendr Clwb Garddio Cydweli a'r Cylch

Cymdeithas Hanes Lleol Cydweli

Diben y Gymdeithas yw hyrwyddo diddordeb yn hanes Cydweli  a darparu modd i drosglwyddo gwybodaeth a gafwyd drwy ymchwil i’r genhedlaeth nesaf.  Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio’r rhyngrwyd yn storfa fel y gall pawb gael mynediad am ddim i’r hyn a wyddys am hanes yr ardal. Creodd  Jeff Mansel y wefan  www.kidwellyhistory.co.uk gan adael model ardderchog  i’r Gymdeithas i’w dilyn. Mae’r Gymdeithas hefyd wedi cyhoeddi tri llyfr yn ddiweddar sy’n adlewyrchu gwaith Bill Morris, hanesydd lleol ac iddo gryn barch. Mae’r cyhoeddiadau a fwriedir yn y dyfodol yn cynnwys Llyfrau Log o Ysgol y Castell ac Ysgol Hillfield  a Mynegai Llongau y Carmarthen Journal.

Mwy o Wybodaeth>

Clwb Probus Cydweli (Un o nifer ledled y DU a’r byd)

Rydym yn darparu man cyfarfod rheolaidd ar gyfer dynion sydd wedi ymddeol neu ymddeol yn rhannol sy’n dymuno cyfarfod â dynion yn yr un sefyllfa neu â’r un diddordebau.
Mae’r Clwb yn cyfarfod yng Nghapel Sul ar y pedwerydd ddydd Mercher o bob mis am 10.15am pryd yr anerchir hwy gan siaradwr gwadd.

Cysylltwch â Nigel Griffiths (Ysgrifennydd) 01554 891554
E-bost: melstocking2002@yahoo.co.uk

<< Back to Directory

Switch to MOBILE version