Croeso i Wefan Tref
Cydweli 2000


Tref arfordirol yw Cydweli, yn ganolbwynt cyfleus ar gyfer teithio o gwmpas Gorllewin Cymru. Gellid gyrru i Barc Cenedlaethol Sir Benfro, i benrhyn godidog Gwyr neu i Fannau digymar Brycheiniog o fewn awr. Dyma ardal gyfoethog yn cyfuno arfordir mawreddog, harddwch cefn gwlad a choedwigoedd ysblennydd sef microcosm fechan o weddill Cymru.



Lleolir Cydweli rhwng tref farchnadol Caerfyrddin a thref fywiog Llanelli, cartref Clwb rygbi enwog y Crysau Cochion ac a fydd yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Saif Cydweli o fewn pum milltir o harbwr bychan Porth Tywyn, Cwrs Golff yr Ashburnham, Pentref Gwyliau Bae Caerfyrddin a phentrefan prydferth Glanyfferi ar fin y mor.

Gerllaw mae Parc Gwledig Penbre lle ceir coedwigoedd eang a llwybrau natur sy'n ffinio ar saith milltir o draeth euraidd Cefn Sidan. Yma hefyd, lleolir Canolfan Ymrysonfeydd Moduro Cymru a Maes Awyr newydd Penbre.


Sefydlwyd tref hynafol Cydweli rhwng afonydd y Gwendraeth Fawr a'r Gwendraeth Fach a bu ei gwastadeddau mwdlyd yn gartref i lawer math o adar gwylltion. Tua 1115 grantiwyd Siarter Brenhinol I Gydweli gan Harri'r Cyntaf. Dyma un o fwrdeistrefi hynaf Cymru yng nghysgod ei chastell Normanaidd syfrdanol. Dyma un o gestyll mwyaf godidog Cymru - saif yn gadarn a bygythiol yn gwarchod ac yn amddiffyn y gymuned gyfan.

Yn ogystal â'r castell , gellir ymweld ag Eglwys y Santes Fair a adeiladwyd tua 1320, yr Amgueddfa Ddiwydiannol, Cei Thomas Kymer gyda'i gyfleusterau angori a hefyd troedio dros ddeng milltir o lwybrau cyhoeddus cudd sydd yn amgylchynu'r dref.