Kidwelly Town Council Logo
Menu

COVID-19 Diweddariad ynghylch cynllun cadw swyddi

O dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws, bydd holl gyflogwyr y DU yn gallu cael mynediad at gymorth i barhau i dalu rhan o gyflog eu gweithwyr ar gyfer y gweithwyr hynny a fyddai fel arall wedi cael eu diswyddo. Mae pob busnes yn y DU yn gymwys.

I gael mynediad i’r cynllun, bydd angen i fusnesau:

  • nodi gweithwyr sy’n cael eu heffeithio fel ‘gweithwyr ar seibiant’ (furloughed workers) a rhoi gwybod i’ch gweithwyr am y newid hwn - mae newid statws gweithwyr yn parhau i fod yn amodol ar y gyfraith gyflogaeth gyfredol ac, yn dibynnu ar y contract cyflogaeth, gall fod yn destun trafod
  • cyflwyno gwybodaeth i CThEM ynglŷn â’r gweithwyr sydd ‘ar seibiant’ a'u henillion drwy borth ar-lein newydd. Nid yw'r porth hwn ar waith eto a byddwn yn cyhoeddi manylion cyn gynted ag y byddant ar gael (bydd CThEM yn nodi manylion pellach am y wybodaeth angenrheidiol)

Bydd CThEM yn ad-dalu 80% o gostau cyflog y gweithwyr ‘ar seibiant’, hyd at gap o £2,500 y mis. Mae CThEM yn gweithio ar frys i sefydlu system ar gyfer ad-daliadau. Nid yw’r systemau presennol wedi’u creu i hwyluso taliadau i gyflogwyr.

 

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen arweiniad ar gyfer cyflogwyr (Gwefan Saesneg CThEM).

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen arweiniad ar gyfer gweithwyr (Gwefan Saesneg CThEM).

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.