
Swyddfa’r Cyngor, Hillfield Villas
Cydweli, Sir Gaerfyrddin. SA17 4UL
Ffôn: 01554 890203
e-bost: towncouncil@kidwelly.gov.uk

Croeso arbennig o gynnes i bawb, ymhell ac agos, sydd â chysylltiad cryf â’r ardal boed hynny drwy berthnasau neu oherwydd ymweliad â’r dref yn y gorffennol. Byddwn yn gwneud ein gorau i roi gwybod i chi am bopeth sy’n cael ei gynnal neu’n digwydd yn y cylch yn ystod y flwyddyn, yn achlysuron dinesig ac yn ddigwyddiadau eraill.
Mae
llawer gennym i ymfalchïo ynddynt yn y
Dref, y castell canoloesol; eglwys hynafol a hardd y Santes Fair ar Heol
Fair; Camlas Kymer y gamlas gyntaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru;
Cei Cydweli a’i amrywiaeth cyfoethog o fywyd gwyllt a Gwarchodfa Natur
Glan yr Afon a’i doreth o adar, blodau a
ffawna. Mae’r daith gerdded ddeniadol ac
iachusol ar hyd yr aber yn daith hynod naill ai ar ddiwrnod braf o haf neu ar
brynhawn oer yn y gaeaf. Mae’n werth ymweld
hefyd â’r Amgueddfa Ddiwydiannol ym Mynydd y Garreg, i weld
tystiolaeth o’r diwydiant tun sy’n rhan o’n hetifeddiaeth ynghyd â chreiriau diddorol eraill sy’n rhan
o’n gorffennol. Mae cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud yng Nghydweli a’r
cylch.
Estynnwn groeso Cynnes i bawb ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn y dyfodol agos .
Jeanette Gilasbey
Maer Tref Cydweli
Mewn argyfwng neu ti allan i oriau’r swyddfa y Cyngor cysylltwch efo:
Maer – Cyng. Jeanette Gilasbey 01554 892729
Dirprwy Maer – Cyng. Stephen Finch 01554 891226
|
Atyniadau Lleol |
Information |
Business Directory |
