Kidwelly Town Council Logo
Menu

CThEM - Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws - diweddariad ar gyfer cyflogwyr

CThEM - Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws - diweddariad ar gyfer cyflogwyr

Mae hi bron yn fis ers dechrau Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CJRS) a bydd nifer o fusnesau yn paratoi gwneud cais arall er mwyn derbyn arian erbyn diwedd mis Mai.

Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn taliad ar ddiwedd Mai, rhaid i chi wneud cais erbyn dydd Mercher 20 Mai‌‌.

Pan fyddwch yn gwneud cais trwy'r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws, byddwch yn derbyn y taliad o fewn chwe diwrnod gwaith.

Ar ôl i chi wneud y cais, sicrhewch eich bod yn cadw'r holl fanylion a'r cyfrifiadau, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu gyda chi i'w trafod.

Diweddaraiad o'r cynllun

Ar 12 Mai, cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai'r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws yn cael ei ymestyn nes diwedd mis Hydref. Bydd y cynllun ar ei wedd bresennol yn parhau nes diwedd mis Gorffennaf.

O'r 1‌‌ Awst nes diwedd mis Hydref, mi fyddwn yn cyflwyno rhagor o hyblygrwydd fel y gall cyflogwyr ddod a'u gweithwyr sydd ar gynllun ffyrlo yn ôl i'r gwaith rHan-amser a chyfrannu at dalu cyflog gweithwyr tra hefyd yn derbyn cefnogaeth o'r cynllun.

Bydd y mesurau yma yn berthnasol i bob rhanbarth a sector o economi'r Deyrnas Gyfunol, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi rhagor o fanylion ar sut bydd hyn yn gweithio erbyn diwedd mis Mai.

Arweiniad a chefnogaeth

Yn y cyfamser, mae rhagor o fanylion ar gael ar-lein i'ch helpu gwneud cais – ewch i GOV‌.UK a chwiliwch am 'Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws'.

Mae'r arweiniad ar-lein wedi cael ei ddiweddaru'n barod gyda:

  • rhagor o wybodaeth ar gyfer gweithwyr sydd ar gynllun ffyrlo
  • y gwaith gall cyfarwyddwyr cwmnïoedd sydd ar gynllun ffyrlo ymgymryd
  • pa gyfnodau amser gallwch wneud cais ar gyfer
  • rhagor o fanylion ar daliadau nad sy'n ddiamod, cyflog gwyliau a chadw cyfrifon.

Mae ein seminarau ar-lein hefyd ar gael i'ch helpu ac mae dau ar gael ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws ar ein sianel YouTube 'HMRCgovuk' – trosolwg o'r cynllun a sesiwn fanwl ar sut i wneud cais. Gallwch archebu lle ar "webinar" byw drwy ymweld â GOV‌.UK a chwilio am 'help a chymorth os yw eich busnes wedi cael ei effeithio â'r coronafeirws'.

Cofiwch mai diben y grantiau yw talu cyflogau gweithwyr a'r Yswiriant Gwladol perthnasol a chyfraniadau pensiwn.

Gallwn wrthod talu eich taliadau neu y byddwn yn eich gorfodi i'w talu yn ôl yn llawn os canfyddir bod eich cais yn seiliedig ar wybodaeth wallus neu anonest ac mae'n bosib y byddwn yn eich ffonio i wirio manylion eich cais.

Diogelu eich hun rhag dioddef o dwyll

Byddwch yn wyliadwrus o dwyll; gallech dderbyn negeseuon a fedrai edrych fel negeseuon swyddogol oddi wrth y llywodraeth. Peidiwch â rhannu gwybodaeth breifat neu ateb negeseuon testun, a pheidiwch lawr-lwytho atodiadau i'ch cyfrifiadur o negeseuon anghyfarwydd. Chwiliwch am 'scams' ar GOV‌.UK am ragor o fanylion ynghylch sut i adnabod negeseuon dilys oddi wrth CThEM. Gallwch hefyd ddanfon negeseuon amheus sy'n nodi eu bod oddi wrth CThEM ymlaen at phishing@hmrc.gov.uk a negeseuon testun at 60599.

Rwy'n gobeithio bod y wybodaeth yma yn cefnogi eich busnes a pharheuwn i'ch diweddaru ar ddatblygiadau'r cynllun yn ystod y cyfnod dyrys hwn.

Yn gywir

Jim Harra

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.