Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyfrifiad 2021 - diweddariad

Ddydd Sul 21 Mawrth, aeth miliynau o bobl ledled Cymru a Lloegr ati i ateb cwestiynau allweddol amdanyn nhw eu hunain a’u cartrefi er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau lleol ym mhob cymuned eu llywio gan y wybodaeth orau posibl.

Fodd bynnag, i'r rhai hynny nad ydynt wedi cyflwyno eu holiaduron eto – ar lein neu ar bapur – neu'r rhai sydd efallai wedi colli eu llythyr gwahoddiad, mae llawer o help ar gael.

“Mae angen i'r wybodaeth a rowch ymwneud â phwy sy'n byw yn eich cartref fel arfer ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef dydd Sul 21 Mawrth ond, os nad ydych chi wedi llenwi eich holiadur eto, cofiwch wneud hynny – mae amser ar ôl o hyd,” meddai Dirprwy Ystadegydd Gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Iain Bell.
“Dylai pob cartref fod wedi cael llythyr yn ei wahodd i gymryd rhan ac rydym ni wedi cael ymateb gwych hyd yma. Os nad ydych chi wedi cael eich llythyr, neu os ydych chi wedi'i golli, gallwch fynd ar lein i www.cyfrifiad.gov.uk a gofyn am god mynediad unigryw newydd.
“Mae digon o help ar gael, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb yng Nghanolfannau Cymorth lleol y Cyfrifiad.

“Cyn bo hir, bydd swyddogion maes yn dechrau ymweld â chartrefi nad ydynt wedi cwblhau eu cyfrifiad. Byddant yn dilyn canllawiau cadw pellter
cymdeithasol a chadw'n ddiogel rhag COVID-19, gan helpu pobl i gymryd rhan.

“Byddant yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac ni fydd byth angen iddynt fynd i mewn i gartrefi pobl. Byddant yn gweithredu mewn ffordd debyg i weithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd.”

Bydd canlyniadau'r cyfrifiad yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, a'r anghydraddoldebau mae pobl yn eu profi, gan sicrhau y bydd y penderfyniadau mawr a fydd yn wynebu'r wlad yn dilyn y pandemig ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar y wybodaeth orau posibl, drwy'r atebion dienw a gaiff eu rhoi.

Ni fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol byth yn rhannu manylion personol ac ni fydd neb, gan gynnwys cyrff y llywodraeth, yn gallu eich adnabod chi yn ystadegau'r cyfrifiad. Caiff cofnodion personol y cyfrifiad eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedyn y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu gweld.

Os na fydd pobl yn cwblhau'r cyfrifiad, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu dirwy o hyd at £1,000.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ddod o hyd i ganolfan cefnogaeth y cyfrfiad lleol, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.