YNGHYLCH: RHANNU PROSIECTAU A DARPARU GWYBODAETH. DYDD LLUN 14eg MEHEFIN 2021, 13:00 - 14:00
Dros y misoedd diwethaf, mae'r Tîm Cymunedau Actif wedi cynyddu eu cyfleoedd i Oedolion Actif yn sylweddol a hoffem rannu'r amserlen amrywiol sydd gennym â chi. Yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon rydym hefyd yn chwilio am rai i ymuno â'n prosiectau ffordd o fyw, mae'r rhain yn cynnwys grŵp cerdded / rhedeg Iechyd Meddwl, cynddiabetes a rhoi'r gorau i ysmygu. Byddem yn falch iawn pe gallech ymuno â ni i ddysgu sut y gall y tîm Actif gefnogi'ch gwasanaeth a'ch rhanddeiliaid trwy ein hymyrraeth a'n gwaith partneriaeth. Os hoffech chi fod yn bresennol, gallwch chi gymryd ychydig eiliadau i lenwi'r ffurflen archebu. Ar ôl derbyn eich cadarnhad byddwn yn danfon y ddolen i'r sesiwn ar-lein.