Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyngor Sir Gâr - Cynllunio seilwaith trefi

Gwneud newidiadau i'ch helpu i gefnogi busnesau lleol

O ddydd Llun, Awst 3, rydym yn gwneud rhai newidiadau i helpu i gael canol ein trefi yn ôl ar eu traed, gan helpu ein busnesau – a chi – i aros yn ddiogel ac i ffynnu.

Felly pan fyddwch yn mynd i'r dref dros yr wythnosau nesaf, byddwch yn sylwi bod newidiadau'n cael eu gwneud.

Mae rhai o strydoedd canol ein trefi yn cael eu neilltuo i gerddwyr yn unig er mwyn cynorthwyo masnachwyr i ddod â'u busnes i'r awyr agored, ac i ganiatáu i bobl giwio'n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol.

Mae systemau unffordd ar gyfer llwybrau cerdded yn cael eu rhoi ar waith mewn rhai ardaloedd, a chrëwyd mwy o le ar gyfer cerddwyr trwy newid rhai mannau parcio.

Mae nifer o barthau 20mya newydd hefyd yn cael eu cyflwyno ar lawer o strydoedd i sicrhau diogelwch cerddwyr.

Y gobaith yw y bydd y mesurau nid yn unig yn creu lle mwy diogel i bobl siopa'n lleol, cefnogi masnachwyr a mwynhau dod i ganol ein trefi, ond y byddant hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd.

Bydd strydoedd canol tref sy'n cael eu gwella er diogelwch ar agor i gerddwyr yn unig rhwng 10am a 4pm ond byddant ar agor i gerbydau y tu allan i'r oriau craidd hyn.

Bydd yr holl fesurau newydd a thros dro hyn yn cael eu hadolygu a byddwn yn ymgysylltu â masnachwyr, siopwyr ac ymwelwyr i gael eich adborth. Cadwch lygad mas am arolygon ar-lein trwy ein gwefan, ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, neu anfonwch e-bost atom ar ymgynghori@sirgar.gov.uk

Cymerwch olwg i weld beth y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn ymweld a chofiwch Barchu, Diogelu, a Mwynhau Sir Gaerfyrddin…

Parchu - canllawiau, mesurau diogelwch, cymunedau lleol ac eraill o'ch cwmpas.
Diogelu - eich hunain, pobl eraill a gwasanaethau critigol; aros gartref os ydych yn sâl a golchi'ch dwylo yn aml
Mwynhau - treulio'ch amser hamdden yn ddiogel a chefnogi busnesau lleol i'w cael yn ôl ar eu traed

 

Llanelli

Byddwn yn troi Stryd Cowell, o'i chyffordd â Stryd John, a'r man o flaen Gerddi'r Ffynnon, yn ardal i gerddwyr yn unig sy'n golygu na chaniateir mynediad i gerbydau rhwng 10am a 4pm bob dydd.

Gan y bydd hyn yn effeithio ar y mannau parcio i bobl anabl yn yr ardal hon, bydd mannau parcio newydd dros dro i bobl anabl ar gael ar hyd y briffordd wrth i chi gyrraedd Stryd Cowell o Stryd Murray, ac ar hyd Stryd John, er y bydd y mannau aros am gyfnod cyfyngedig presennol yn cael eu symud. Bydd newid i'r mannau aros cyfyngedig presennol yn cael eu symud i Stryd Murray a Stryd Lloyd.

Gweler y map i gael manylion llawn am yr holl fesurau dros dro newydd.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld map o Lanelli

 

Caerfyrddin

Bydd Stryd y Brenin a Stryd y Frenhines, Maes Nott a'r strydoedd bychain cyfagos yn ardal i gerddwyr yn unig, sy'n golygu na chaniateir mynediad i gerbydau rhwng 10am a 4pm bob dydd.
Bydd nifer o lwybrau unffordd i gerddwyr i helpu i gadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ar hyd Lôn Jackson, y lonydd sy'n cysylltu Heol Spilman â Heol y Brenin, ac yng nghyffiniau'r depo bysiau yn Heol Las.
Gweler y map i gael manylion llawn am yr holl fesurau dros dro newydd.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld map o Gaerfyrddin

 

Rhydaman

Mae'r newidiadau'n cynnwys lledu llwybrau troed yng nghyffiniau'r orsaf fysiau a gosod arwyddion yn cynghori pobl i 'gadw i'r chwith'. Bydd darn bach ym mhen uchaf Stryd y Gwynt lle mae'n ymuno â Stryd y Cei, yn cael ei droi'n ardal i gerddwyr, ac rydym yn gweithio gyda chontractwyr i gael gwared ar rywfaint o'r palis.

Gweler y map i gael manylion llawn am yr holl fesurau dros dro newydd.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld map o Rydaman

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.