Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyngor Tref Cydweli yn annog Cyngor Sir Gâr i wyrdroi eu penderfyniad i gau Ysgol Mynyddygarreg

Mae aelodau o Gyngor Tref Cydweli wedi pleidleisio’n unfrydol i annog Cyngor Sir Caerfyrddin i wyrdroi eu penderfyniad i gau Ysgol Mynyddygarreg.

Mae ysgolion bach gwledig yn rhan bwysig o'r gymuned, yn enwedig mewn pentrefi fel Mynyddygarreg, sydd wedi gweld dirywiad araf a chyson mewn cyfleusterau. Nid oes gan y pentref siop, garej, tafarn na swyddfa bost - gyda phob un wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf. Byddai cau'r ysgol yn ddirywiad pellach ar gymuned Mynydygarreg.

Mae Mynyddygarreg yn gymuned sy'n tyfu. Yn wir, mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys dau safle ar gyfer tai, un gyferbyn â'r ysgol, ac un arall ar waelod y bryn.

Y tro diwethaf i Gyngor Sir Gaerfyrddin geisio cau'r ysgol yn 2006, ymunodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg â'r gymuned, dan arweiniad Ray Gravell wrth ymgyrchu i gadw'r ysgol ar agor. Codwyd pryderon hefyd am yr effaith y byddai cau'r ysgol yn ei chael ar y Gymraeg. Erys y pryderon hyn.

Mae'n ymddangos nad yw'r asesiad effaith gymunedol a ysgrifennwyd fel rhan o'r cais i gau ysgolion yn sôn am yr effaith ar gymuned Mynyddygarreg.

Nid yw'r cynigion yn sôn am y ffaith bod yr ysgol wedi cael ei raddio'n wyrdd gan Estyn - y rhagoriaeth uchaf am y pedair blynedd yn olynol ddiwethaf.

Mae llywodraethwyr yr ysgol yn anhapus gyda phenderfyniadau'r Cyngor Sir ac yn teimlo bod y sefyllfa bresennol hon wedi'i gorfodi arnynt.

Mae rhieni hefyd yn anhapus â'r penderfyniad i gau'r ysgol, gyda nifer ohonynt wedi dewis ysgol fach yn benodol ar gyfer addysgu eu plant. Mae'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gwenllian 2 filltir i ffwrdd, ar draws ffordd osgoi brysur nad oes ganddi groesfan ddiogel na phalmentydd hyd yn oed.

Mae rhieni wedi nodi pe bai'r ysgol yn cau, nid fyddant yn bwriadu danfon eu plant i'r Ysgol Gwenllian newydd. Gan y byddai'n rhaid iddynt fynd â'u plant mewn car beth bynnag, byddent yn chwilio am ysgol fach arall yn y cyffiniau.

Mewn dadl ddiweddar yn y Senedd, nododd y Prif Weinidog, wrth siarad yn uniongyrchol am y bwriad i gau Ysgol Mynyddygarreg, bod rhaid i'r Cyngor roi rhesymeg dros gau'r ysgol.

Fel cyngor cymunedol, sy'n cynrychioli cymuned Cydweli a Mynyddygarreg, rydym yn teimlo nad yw Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dadlau'n ddigonol dros gau'r ysgol.

Mae rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i newid eu meddwl a phenderfynu cadw Ysgol Mynyddygarreg ar agor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.