Darparu gwasanaeth Diwifr (Wi-Fi) yng Nghydweli drwy gwmni Telemat
Mae Cyngor Tref Cydweli yn cyflwyno cynllun Wi-Fi rhad ac am ddim i’r dref. I alluogi’r WiFi rhad ac am ddim, bydd angen cyfres o bwyntiau mynediad mewn lleoliadau strategol ar hyd y dref. Mae Cyngor Tref Cydweli yn chwilio am gymorth oddi wrth fusnesau i gynnal y pwyntiau mynediad yma (modemau bach) ar ei hadeiladau. Mae hyn yn rhad ac am ddim i fusnesau sy’n cymryd rhan. Mae Cyngor Tref Cydweli yn noddi Cynllun Telemat, sy’n brosiect a ariennir drwy’r Undeb Ewropeaidd sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Sir Gâr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan cysylltwch â Chlerc y Dref ar 01554 890203 neu danfonwch e-bost at towncouncil@kidwelly.gov.uk