Gweler isod ddatganiad gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole:
Mae bron i wythnos bellach ers i ran helaeth o Lanelli gael ei dynodi yn 'ardal diogelu iechyd' yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion Covid-19 yn yr ardal.
Rwyf am ddweud DIOLCH.
Ni allaf ddiolch digon i chi am bopeth rydych yn ei wneud i ddiogelu eich hanwyliaid, eich teuluoedd a'ch ffrindiau. Gallaf eich sicrhau y bydd eich aberth a’ch holl ymdrechion yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddilyn y rheolau a gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y lledaeniad, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, a gyda'n gilydd gallwn ddod drwy hyn.
Dilynwch y cyngor ar hunanynysu ac os oes gennych unrhyw symptomau ewch i gael prawf.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd ac maent wedi cynyddu'r gallu i brofi yn y dref felly nid oes angen teithio'n bell.
Os ydych yn cael prawf positif, dylech weithio gyda'n timau Profi, Olrhain a Diogelu er mwyn i ni olrhain unrhyw un y gallech fod wedi dod i gysylltiad ag ef.
Mae hyn bellach yn rhan o'n 'normal newydd', nid oes angen i chi bryderu, ond gwrandewch yn ofalus ar eu cyngor.
Fel yr addawyd, rydym wedi cynyddu ein gwaith monitro a gorfodi - yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae ein tîm gorfodi, gyda chymorth Heddlu Dyfed-Powys, wedi ymweld â mwy na 100 o fusnesau i gynnig cyngor a chymorth.
Rydym yn ddiolchgar i fusnesau lleol sydd ar y cyfan, yn darparu amgylchedd diogel i’w cwsmeriaid. Ac os nad ydynt wedi cyrraedd y nod, mae camau gweithredu wedi cael eu rhoi ar waith.
O ganlyniad, mae cyfanswm o saith hysbysiad cau a phum hysbysiad gwella wedi cael eu rhoi am dorri'r rheoliadau coronafeirws.
Byddwn yn parhau i fonitro'r cyfraddau heintio, effeithiolrwydd y mesurau sydd wedi'u cyflwyno a chydymffurfiaeth trigolion a busnesau, gan weithio'n agos gyda'n partneriaid allweddol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fodd bynnag, mae'n ddyddiau cynnar iawn o hyd ac mae trigolion, nid yn unig yn Llanelli, ond ar draws sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i barhau i ddilyn y cyngor ynghylch cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gorchuddion wyneb, hunanynysu a phrofi.
Rydym yn gwybod beth sydd angen i ni ei wneud i atal y lledaeniad, a gyda'n gilydd gallwn drechu’r feirws a chadw Sir Gaerfyrddin yn ddiogel.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.