Mae’r criwiau gwastraff ac ailgylchu yn gweithio ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc (25 Mai), mewn ymateb i bandemig Coronafeirws (COVID-19).
Mae preswylwyr yn cael eu hannog i roi eu gwastraff (gan gynnwys gwastraff gardd) allan ar eu diwrnod casglu arferol.
Atgoffir preswylwyr hefyd i roi eu biniau allan y noson gynt gan y bydd casgliadau yn cael eu gwneud yn gynharach na'r arfer o bosibl.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ail-agor ei bedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref o'r wythnos nesaf ymlaen (wythnos yn dechrau 26 Mai) - ond dim ond i drigolion Sir Gaerfyrddin sydd eisoes wedi trefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Gellir gwneud apwyntiadau drwy ffurflen archebu ar-lein ar sail y cyntaf i'r felin. Mae hyn er mwyn sicrhau bod nifer yr ymwelwyr â'r safle ar unrhyw adeg yn cael ei reoleiddio er diogelwch y staff a'r cyhoedd. Ni fydd unrhyw un sy'n cyrraedd y safle heb apwyntiad yn cael mynediad.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen rhagor o wybodaeth
Ar hyn o bryd mae'r holl is-etholiadau i lenwi swyddi gwag ar gyfer Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru wedi cael eu gohirio a byddant yn cael eu cynnal ar ddyddiad(au) rhwng 1 Chwefror a 16 Ebrill 2021
Cyllid newydd i gefnogi ffermwyr llaeth yn ystod COVID-19.
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, wedi cyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf gan yr amodau eithriadol diweddar yn y farchnad o ganlyniad i COVID-19.
I gefnogi’r sector yn ystod y cyfnodau heriol hwn, mae’r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd gan ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill ac wedi hynny ym mis Mai hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70% o’r incwm y maent wedi ei golli. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen rhagor o wybodaeth
Mae parciau a lleoedd chwarae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod ar gau yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cydnabod nad yw rheolau cyfyngiadau symud yn atal pobl rhag gwneud ymarfer corff yn lleol, a bod rhai parciau a mannau gwyrdd sydd â mynediad agored eisoes yn hygyrch ar droed neu ar feic, fodd bynnag, rydym yn parhau i annog pobl i gadw pellter cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn, a pheidio â gyrru i leoliadau o'r fath. Tra bod y cyfyngiadau symud ar waith, bydd parciau sy'n eiddo i'r cyngor, a'n meysydd parcio arfordirol, yn parhau i fod ar gau.
Yn anffodus yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu'n rhaid i'n staff ymdrin â phobl yn ymgasglu ac achosion lle mae pobl wedi teithio cryn bellter i ymweld â lleoedd yn erbyn y canllawiau ar deithio nad yw'n hanfodol. Nid yn unig y mae hyn yn bryder, ond mae wedi effeithio ar ein hadnoddau ni ac ar adnoddau ein cydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys.
Gofynnwn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ac i gadw llygad ar ein gwefan a'n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau pellach.
Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu rhybuddio i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag neges e-bost dwyllodrus newydd ynghylch ad-daliad treth gyngor.
Mae twyllwyr yn cysylltu â phobl drwy e-bost i ddweud wrthynt bod modd iddynt gael gostyngiad o gannoedd o bunnoedd yn y dreth gyngor.
Mae'r e-bost yn awgrymu bod y gostyngiad o ganlyniad i Covid-19 ac oherwydd bod y person ar incwm isel neu'n derbyn budd-daliadau.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen rhagor o wybodaeth
Cyn bo hir byddwn yn dechrau ein gwaith cynnal a chadw blynyddol i reoli chwyn ar ein rhwydwaith ffyrdd.
Bydd asesiadau risg a systemau gweithio diogel ar waith ar gyfer y gwaith hwn i sicrhau y cydymffurfir â chanllawiau'r Llywodraeth o ran cadw pellter cymdeithasol. A fyddech cystal â chynorthwyo ein gwaith a diogelwch ein gweithlu drwy gydymffurfio â'r gofynion cadw pellter cymdeithasol lle byddwn yn cyflawni'r gwaith hwn.
Mae gan Sir Gaerfyrddin dros 3,500 cilomedr o ffyrdd gwledig a threfol. Bob blwyddyn mae ein tîm priffyrdd yn cyflawni rhaglen helaeth o reoli chwyn i sicrhau nad oes chwyn a llystyfiant ar sianeli, draeniau a throedffyrdd ac i atal dŵr wyneb rhag cronni. Mae'r gwaith hwn hefyd yn atal llystyfiant sy'n gallu achosi problemau draenio a llifogydd dŵr wyneb.
Mae gwaith cynnal a chadw hefyd yn cael ei wneud ar droedffyrdd a ffyrdd cerbydau i sicrhau nad yw llystyfiant yn rhwystro cerddwyr, beicwyr a phobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd.