Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddaraiad Coronafeirws Cyngor Sir Gâr Mehefin 19eg

Busnesau Canol trefi Sir Gaerfyrddin yn paratoi i ailagor

Mae canol trefi Sir Gaerfyrddin wrthi'n paratoi i groesawu siopwyr yn ôl ar ôl misoedd o fod ar gau oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn helpu masnachwyr a busnesau i baratoi i ailagor pan fydd rheolau cyfyngiadau symud yn cael eu llacio yng Nghymru ddydd Llun, 22 Mehefin.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Arweiniad a chymorth ar gyfer ailagor parciau a mannau agored

Gan fod llawer o gynghorau tref a chymuned yn edrych ymlaen ac yn gweithio tuag at ailagor cyfleusterau, rydym yn rhannu ein pecyn cymorth cadw pellter cymdeithasol a allai fod yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n bwriadu ailagor parciau, mannau agored neu gyfleusterau cyhoeddus.

Rydym wedi llunio canllawiau ychwanegol isod ar bynciau penodol i'ch helpu i roi'r dull 5 cam hwn ar gyfer ailagor ar waith, ynghyd ag adran Cwestiynau Cyffredin i ateb unrhyw bryderon sydd gennych. Fe wnawn barhau i ddiweddaru'r wybodaeth hon, rhowch wybod i ni os oes rhywbeth yr hoffech i ni ei ychwanegu at ein gwefan.  

Os hoffech gael rhagor o gymorth neu arweiniad ynghylch arwyddion anfonwch e-bost at MarchnataCyfryngau@sirgar.gov.uk

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor ynghylch y 5 cam at ailagor yn ddiogel


Ailagor toiledau cyhoeddus sy’n eiddo i’r Cyngor Sir

Bydd toiledau cyhoeddus sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin yn ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin.
Mae’r cyfleusterau mewn trefi a chymunedau ledled y sir wedi cael eu cau ers mis Mawrth o achos y pandemig Coronafeirws (COVID-19).

Maent yn cynnwys:

  • Maes parcio Heol Ioan, Caerfyrddin
  • Maes parcio San Pedr, Caerfyrddin
  • Maes parcio Llandeilo
  • Maes parcio Sanclêr
  • Talacharn (Stryd Wogan)
  • Ger Neuadd y Dref, Llanelli
  • Gorsaf Fysiau Porth y Dwyrain, Llanelli
  • Maes parcio Carregaman, Rhydaman
  • Maes parcio traeth Llansteffan
  • Cliff Walk Pentywyn, (Springwell)
  • Glanyfferi (mynedfa i’r traeth)
  • Cenarth
  • Mae meysydd parcio Porth Tywyn a Llanymddyfri wedi agor eisoes

Bydd yr awdurdod yn gweithio’n agos gyda chynghorau tref a chymuned i gynnig cyngor a chefnogaeth ynghylch sut i ailagor eu cyfleusterau’n ddiogel.


Slotiau wythnosol bellach ar gael mewn canolfannau ailgylchu

Gall preswylwyr bellach wneud apwyntiad unwaith bob saith diwrnod i fynd i un o'r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn y sir.

Mae'r newid hwn yn dilyn ailagor canolfannau Nant-y-caws, Trostre, Wernddu a Hendy-gwyn yn llwyddiannus.

Mae apwyntiadau ychwanegol hefyd ar gael ar draws y pedwar safle ac mae Wernddu bellach ar agor saith diwrnod yr wythnos.

Dim ond trwy apwyntiad y gellir ymweld â'r canolfannau ailgylchu o hyd, a hynny at ddibenion hanfodol yn unig i waredu unrhyw wastraff y cartref. 

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.