Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi pecyn sefydlogi newydd gwerth £800m i helpu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru i barhau i ymateb i argyfwng y coronafeirws ac adfer o’i effaith.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi £22.7m o gyllid arall i helpu i fodloni’r costau ychwanegol y mae darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hysgwyddo o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn annog unrhyw un sy’n hunanynysu gartref gyda COVID-19 i gysylltu ag 111 neu â’u meddyg teulu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod neu os ydynt yn dioddef o ddiffyg anadl neu’n chwydu, neu os yw blinder yn eu hatal rhag gwneud eu gweithgareddau arferol.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o ddydd Llun ymlaen.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn mynd i ailagor, gan ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal i rieni plant 3 a 4 oed ledled Cymru sy’n gweithio.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Ar drothwy’r penwythnos cyntaf ers i leoliadau lletygarwch dan do ailagor a chan fod disgwyl i’r tywydd fod yn braf mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn awyddus i atgoffa trigolion ac ymwelwyr i fwynhau’r hyn y gall Cymru ei gynnig – ond mewn modd diogel.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Cafodd cynhadledd bwysig ei chynnull gan Weinidog yr Economi a’r gogledd Ken Skates gydag arweinwyr y byd gweithgynhyrchu yn y Gogledd ac ardal y ffin.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i lacio rheolau’r Gronfa Cymorth Dewisol tan 31 Mawrth 2021.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn rhoi help angenrheidiol i gyflogwr pwysig yn Wrecsam allu diogelu swyddi, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae’r ffigurau cychwynnol gan y gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn dangos bod cynnydd o 36% mewn ymholiadau mabwysiadu yn ystod mis Ebrill – Mehefin 2020, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Gwybodaeth amlieithog am symptomau’r coronafeirws, profi am y coronafeirws ag olrhain cysylltiadau.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Cynhaliodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart yr ail Uwchgynhadledd Tomenni Glo ers tirlithriad Tylorstown yn ystod llifogydd mis Chwefror eleni.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd i wella ansawdd aer y wlad o dan ei Chynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi pwyso ar y niferoedd uwch nag erioed sy’n dysgu Cymraeg yn ddigidol i gymryd rhan yn Eisteddfod rithiol AmGen eleni.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.
Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.
Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.
Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan. (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho'r deunydd digidol fan hyn
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor o wybodaeth
Byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.