Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu taliad bonws i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a staff gofal cymdeithasol i gydnabod eu cyfraniad eithriadol yn ystod pandemig COVID-19.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd coedlannau coffa’n cael eu plannu er cof am y bobl a fu farw o ganlyniad i coronafeirws.
Mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi rhoi’r Cydsyniad Brenhinol i ddeddfwriaeth ar gyfer sicrhau y gall etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn ddiogel, er gwaetha’r ffaith bod pandemig y coronafeirws yn parhau.
Am fod y cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) diweddaraf yn gofyn i bobl yng Nghymru aros yn lleol, bydd Croeso Cymru yn ail-lansio ei ymgyrch Addo, gan ofyn i bobl Cymru wneud adduned wrth iddyn nhw ddechrau mentro yn eu cymunedau lleol unwaith eto i ofalu am ei gilydd, am ein tir ac am ein cymunedau.
Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd i ddod >>