Diweddaraiad Coronafeirws Llywodraeth Cymru 26ain Chwefror 2021
Diogelu Cymru
Mae Cymru oll mewn cyfnod o gyfyngiadau symud (lefel rhybudd 4)
• aros gartref
• cyfarfod pobl yr ydych yn byw gyda nhw yn unig
• gweithio o gartref os gallwch
• gwisgo gorchudd wyneb lle bo gofyn
• golchi eich dwylo'n rheolaidd
• aros 2 fetr wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw
Penawdau Newyddion
Targedau cynharach ar gyfer brechu yn erbyn COVID a blaenoriaethau newydd yn cael eu cadarnhau i Gymru
Mae strategaeth frechu i Gymru ddiwygiedig wedi cael ei chyhoeddi, sy’n cadarnhau bod dyddiadau targed allweddol cynharach wedi’u pennu a bod cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mewn perthynas â blaenoriaethu ar gyfer y cam nesaf yn y broses frechu yn cael ei fabwysiadu. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Cefnogi 750 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes yn ystod argyfwng y coronafeirws
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi datgelu bod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 750 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes neu i ddod yn hunangyflogedig yn ystod argyfwng y coronafeirws. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Hwb i’r rhaglenni brechu a phrofi er mwyn helpu i ailagor Cymru yn ddiogel
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen brofi yn cael ei ehangu, a brechiadau’n cael eu rhoi’n gyflymach er mwyn helpu Cymru i ailagor yn ddiogel. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Ken Skates: “Edrych tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy ffyniannus ar gyfer y gogledd"
Gall y gogledd edrych tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy ffyniannus a rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn dyblu’r cyllid i gefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru â phecyn £10m
Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y caiff mwy na £10m ei ddarparu i ymestyn un o raglenni Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Codi’r gwaharddiad ar ddefnyddio rhoddion plasma o’r DU i wneud meddyginiaeth
Yn unol â chytundeb rhwng y pedair gwlad, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething heddiw (dydd Iau 25 Chwefror) wedi cyhoeddi y bydd y gwaharddiad ar ddefnyddio plasma o’r DU i wneud meddyginiaeth yn cael ei godi. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Lefel rhybudd COVID-19: diweddariad gan Brif Swyddogion Meddygol y DU
Neges gan 4 Prif Swyddog Meddygol y DU ar lefel rhybudd y DU. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.