Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddaraiad Coronafeirws Llywodraeth Cymru 5ed Chwefror2021

Diogelu Cymru

• aros gartref
• cyfarfod pobl yr ydych yn byw gydanhw yn unig
• cadw pellter cymdeithasol
• golchwch eich dwylo'n rheolaidd
• gweithiwch o gartref os gallwch

Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4


Penawdau Newyddion

Dros 500,000 dos mewn 60 diwrnod

Mae 60 o ddiwrnodau wedi pasio ers i’r gwaith brechu rhag COVID-19 ddechrau yng Nghymru ac erbyn heddiw mae mwy na hanner miliwn o bobl wedi cael eu brechlyn cyntaf rhag COVID-19. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Llythyr agored at benaethiaid

Llythyr agored at benaethiaid gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Rhagor o fanylion am £200 miliwn i gefnogi busnesau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu rhagor o fanylion am y pecyn cymorth gwerth £200 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, ac ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n parhau i gael eu heffeithio gan bandemig COVID-19. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Defnyddwyr Ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am daliad hunanynysu o £500

Bydd y bobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am y taliad cymorth hunanynysu o £500. Dyna gyhoeddiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Ymrwymiad i gefnogi ieuenctid drwy fuddsoddi £9.4m ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar gyfer anghenion iechyd meddwl sy'n newid”, meddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wrth gyhoeddi y bydd mwy na £9 miliwn ar gael yn benodol i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Hwb ariannol o £5.5 miliwn i gynllun cymorth y dreth gyngor

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y bydd cynghorau yng Nghymru yn cael £5.5 miliwn yn ychwanegol i'w helpu i ariannu'r galw cynyddol ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyflwyno profion COVID-19 pellach i gartrefi gofal

Bydd profion COVID-19 pellach yn cael eu cyflwyno i staff cartrefi gofal yr wythnos hon i helpu i adnabod unigolion heintus yn gynharach a rheoli achosion yn fwy effeithiol, dyna gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o’r pandemig COVID-19

Yr angen i fabwysiadu dull unedig o ymateb i faterion iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol, i ganolbwyntio mwy ar arloesi a phwysigrwydd buddsoddi mewn trefniadau diogelu iechyd – dyma rai o’r gwersi a ddysgwyd o don gyntaf y pandemig COVID-19 yng Nghymru, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Annog busnesau i gofrestru i gael cymorth ariannol

Mae Llywodraeth Cymru yn annog busnesau i sicrhau eu bod wedi cofrestru i gael cymorth ariannol i'w helpu i ymdopi â’r effeithiau y mae’r coronafeirws yn parhau i’w cael. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor. 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.