Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddariad am y coronafeirws gan CLlLC 26/01/2021

Brechlyn

• Yng nghynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru ddoe, rhoddodd Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad ar gynnydd y rhaglen frechu yng Nghymru – gwyliwch drwy ddilyn y ddolen hon.

• Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru (22 Ionawr) - Meddygon Teulu yn dod ynghyd i frechu pobl dros 80 oed yn nes at eu cartref.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

• Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cyllido gwerth £17.7 miliwn, er mwyn helpu chwaraeon gwylwyr sydd wedi eu heffeithio’n ddifrifol gan y pandemig – datganiad i’r wasg (dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor) a datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru (dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor).

Yr Economi, Busnesau a Chyflogwyr

• Mae Gweinidog yr Economi wedi gwneud sylwadau ar Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw – datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

• Canllawiau wedi eu diweddaru gan Lywodraeth Cymru ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r Coronafeirws mewn gweithleoedd ac eiddo sydd ar agor i’r cyhoedd.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Canllawiau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl (COVID-19).  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

• Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru: Hwb o £25 miliwn i wasanaethau digidol ar draws GIG Cymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Teithio Rhyngwladol

• Canllawiau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru ar sut i hunan-ynysu wrth deithio i Gymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Ym mhle allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf?

Mae gwybodaeth coronafeirws ar gyfer Cynghorau ar gael yma ar wefan CLlLC.
Mae CLlLC yn casglu arfer dda cynghorau yn ystod pandemig y coronafeirws yma.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd dyddiol o ddata am achosion coronafeirws ledled Cymru, fesul bwrdd iechyd ac ardal awdurdod lleol.
• Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu diweddariad dyddiol sy’n canolbwyntio ar wybodaeth a diweddariadau iechyd cyhoeddus allweddol.
Mae gwybodaeth am coronafeirws ar gael yma ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bwletin wythnosol am y coronafeirws (COVID-19), sy’n cynnwys y newyddion, canllawiau, cyngor diweddaraf ac asedau i rannu ar eich sianeli. Os hoffech danysgrifio i’r bwletin coronafeirws medrwch gofrestru yma neu anfonwch ebost at cyfathrebu.cabinet@llyw.cym
Mae’r ddeddfwriaeth a basiwyd yng Nghymru mewn perthynas â’r pandemig coronafeirws ar gael yma yma.
Mae gwybodaeth coronafeirws Llywodraeth y DU ar gyfer unigolion a busnesau yng Nghymru ar gael yma.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.