Bydd parciau Cyngor Sir Caerfyrddin yn ailagor ddydd Gwener (12 Mehefin). Isod, mae copi o'r datganiad i'r wasg yr ydym wedi'i ryddhau sy'n rhoi gwybodaeth am ailagor Parc Gwledig Pen-bre, Mynydd Mawr, Llyn Llech Owain a Pharc Howard.
Gan fod llawer o gynghorau tref a chymuned yn edrych ymlaen ac yn gweithio tuag at ailagor cyfleusterau, rydym yn rhannu ein pecyn cymorth cadw pellter cymdeithasol a allai fod yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n bwriadu ailagor parciau, mannau agored neu gyfleusterau cyhoeddus.
Os hoffech gael rhagor o gymorth neu arweiniad ynghylch arwyddion anfonwch e-bost at MarchnataCyfryngau@sirgar.gov.uk
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae paratoadau ar waith i ailagor ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn i blant 'ddod i'r ysgol a dal ati i ddysgu' cyn gwyliau'r haf.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y gallai ysgolion ailagor o 29 Mehefin ac y byddai tymor yr haf yn cael ei ymestyn am wythnos.
Mae'r cyngor eisoes wedi bod yn gweithio'n galed i roi cynlluniau ar waith ar gyfer ysgolion yn y sir er mwyn galluogi mwy o blant i fynychu pan fo'r amser yn iawn i wneud hynny.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae Cronfa Ymateb Cymunedol COVID-19 Sir Gaerfyrddin bellach ar gael i gefnogi sefydliadau'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin i wneud y canlynol:
Cynnal neu gynyddu gweithgareddau sy'n cefnogi'r rhai agored i niwed yn ystod argyfwng Coronafeirws (COVID-19)
Sicrhau bod gan sefydliadau/grwpiau cymunedol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'w cymunedau
Annog protocolau iechyd a diogelwch cadarn yn ystod pob gweithgaredd sy'n diogelu staff, gwirfoddolwyr, cynorthwywyr a buddiolwyr y sector gwirfoddol
Mae'r Gronfa yn gynllun ar y cyd a gefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS), Cronfa Fferm Wynt Mynydd y Betws, LEADER, Cronfa'r Degwm, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a Llywodraeth Cymru.
Gall sefydliadau cymwys wneud cais am hyd at £1000 er mwyn helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin i gynnal neu gynyddu gweithgareddau sy'n rhoi cymorth i'r rheiny sy'n agored i niwed yn ystod argyfwng Coronafeirws (COVID-19).
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor, i weld os ydych yn gymwys a sut i wneud cais
Mae'r sefyllfa barhaus yn effeithio ar nifer o wasanaethau. Bydd yr holl wasanaethau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd, felly cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld y wybodaeth ddiweddaraf
Gofynnir am farn trigolion ynghylch gwella mynediad ar gyfer cerdded a beicio yn Sir Gaerfyrddin.
O ddydd Llun bydd pobl yn gallu gwneud awgrymiadau ynglŷn â Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Gaerfyrddin drwy ymgynghoriad ar fap ar-lein. Bydd y map yn helpu i nodi cyfleoedd i ehangu a gwellau'r rhwydwaith a'r cyfleusterau, yn ogystal â phwysleisio'r hyn sydd wedi'i wneud yn dda.
Caiff pawb sydd am wneud siwrneiau ar droed neu ar feic yn ein rhanbarth, gan gynnwys pobl nad ydynt yn cerdded neu'n beicio'n aml, eu hannog i ddweud eu dweud.
Mae'r Cyngor hefyd yn chwilio am fewnbwn i fesurau trafnidiaeth gynaliadwy mewn ymateb i COVID-19. Gellir dod o hyd i'r adran hon ar y dudalen ymgynghori.