Sefydlwyd Cynllun Setliad yr UE o dan delerau y cytundeb a wnaeth y DU wrth adael yr UE, mae’n berthnasol i ddinasyddion yr UE ac EFTA a ddaeth i’r DU cyn diwedd y cyfnod Pontio Brexit ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020. Mae trefniadau tebyg yn berthnasol ar gyfer dinasyddion y DU sy'n byw ac yn gweithio ar gyfandir Ewrop.
Mae angen i drigolion yr UE ac EFTA yn y DU yr effeithir arnynt gan hyn wneud cais os ydynt yn dymuno cadw eu hawliau i fyw, gweithio ac astudio yn y DU. Nid yw rhai pobl yn ymwybodol bod hyn yn berthnasol iddynt, gan gynnwys hyd yn oed rhai cyn-filwyr oedrannus yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i'r DU ymhell cyn i'r DU ymuno â'r UE. Yn ogystal, mae angen i blant rhai sy'n cyrraedd yn fwy diweddar, sydd wedi sicrhau hawliau i fyw a gweithio yn y DU, gael ceisiadau unigol ar eu rhan er mwyn sicrhau y byddant yn gallu cael mynediad at ofal iechyd ac addysg yn y dyfodol.