
Council Offices, Hillfield Villas
Kidwelly, Carmarthenshire. SA17 4UL
tel: 01554 890203
e-mail: towncouncil@kidwelly.gov.uk


Yn
2006 dechreuodd Cyngor Tref Cydweli a Chyngor Cefn Gwlad Cymru gydweithio ar
brosiect yn cydnabod ac yn clustnodi Glan yr Afon yn ardal o harddwch eithriadol
oedd o fudd sylweddol i’r bywyd gwyllt lleol. Bwriad y prosiect yw diogelu
a chadw’r safle a’r amrywiol gynefinoedd, blodau a ffawna, yn cynnwys dau fath
prin o degeirian, er mwynhad pobl Cydweli a’r cyffiniau. Mae’r safle hefyd
yn hafan i wahanol fathau o fywyd ac adar gwyllt sy’n ymweld â’r Ardal Gadwraeth
Arbennig Aberoedd Caerfyrddin gerllaw, safle sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth
Ewropeaidd am amrywiaeth y bywyd gwyllt ar y morfeydd heli.
Yn y cyfnod y defnyddid y Lladd-dy, a chyn hynny, morfa heli oedd y tir lle saif y Warchodfa Natur yng Nglan yr Afon. Tir corsiog yw morfa heli sy’n cael ei orchuddio gan y llanw naill ai o’r môr neu o Aber afon Gwendraeth yn yr achos hwn. Byddai’r tir yng Nglan yr Afon wedi bod yn debyg iawn i’r tir gyferbyn â Chei Cydweli, sef Twyni Cydweli. Defnyddid y morfeydd ar gyfer pori anifeiliaid.
Y British American Optical Company sydd bellach wedi cau, adeiladodd y Morlyn yng Nglan yr Afon. Morlyn Gwaddodi oedd hwn a ddefnyddid yn fan i waredu toddiant o wydr wedi’i lifanu. Bu sawl defnydd o’r safle hwn cyn adeiladu’r Morlyn ond nid fu dim arall yno wedyn. Bellach mae’r Morlyn wedi’i orchuddio gyda phridd ac mae ffens o’i amgylch i gadw’r cyhoedd draw. Pennodd Awdurdod D?r Cymru bod y dull o waredu’r elifiant yn addas ar gyfer yr amgylchedd hwn.
Yn y 1960’au cloddiwyd y morfeydd heli a’u defnyddio gan Gyngor Bwrdeistref Llanelli yn safle ar gyfer gwastraff tai a gwastraff masnachol (deunyddiau adeiladu). Caewyd y tip yn 1987 a gorchuddiwyd y safle gyda phridd
Yn rhan o’r gwaith i adfer ac adfywio safle’r hen dip crëwyd llwybr graean o amgylch y safle ger yr afon. Bellach mae’r llwybr wedi cael ei uwchraddio a’i wynebu â tharmac a’i fabwysiadu yn rhan o lwybr beicio rhif 4 Sustrans sy’n rhedeg ar draws Cymru.
![]() |
![]() |
Adeiladwyd y Lladd-dy yn 1895 gan Gorfforaeth Cydweli er lladd anifeiliaid
o Farchnad Cydweli yr arferid ei chynnal gyferbyn â thafarn y Boot and Shoe.
Amrywiol yw cyflwr y chwe adeilad sy’n dal i oroesi hyd heddiw. Gwaredwyd y
corlannau cysylltiedig ond ailgodwyd un ohonynt yn 2004 yn rhan o’r cyfnod
cyntaf o adfywio Glan yr Afon.
Ar hyn o bryd mae’r Lladd-dy yn rhan o brosiect ar wahân gan Gyngor Tref Cydweli,
Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r prosiect hwn wedi bod ar y
gweill am nifer o flynyddoedd a chafwyd sawl awgrym ar gyfer ei adnewyddu a’i
ddymchwel hyn yn oed. Mae adroddiad diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol
leol, Cambria, yn dangos bod nodweddion unigryw iawn yn perthyn i’r adeilad
nas gwelir mewn unrhyw adeilad arall yn Ne Cymru.
Codwyd y Ffatri gan Mr Anthony Dimech , entrepreneur o Ynys Malta, ddiwedd y 1960’au. Cydrannau ceir a gynhyrchwyd yn y ffatri a bu’n weithredol tan ddiwedd y 1970’au. Yn 1980 dinistriwyd popeth gan dân ar wahân i’r strwythur dur mawr a’r tai mas. Dirywiodd y safle’n gyflym yn ystod y 1980’au a’r 1990’au gan beri perygl i’r cyhoedd a loes i’r llygaid. Yn 2004 ailddatblygwyd yr ardal a elwid Dimech’s a bellach dyma safle’r Maes Parcio ar gyfer Ceir a Bysiau yng Nglan yr Afon. Cyfrannwyd i’r prosiect hwn gan Gyngor Tref Cydweli, Gweithgor Glan yr Afon, Cyngor Sir Caerfyrddin, Mott MacDonald (ymgynghorwyr ), Kingston Construction a Ceris Harries y Swyddog Prosiectau ar y pryd.
Ar 25ain Ebrill, yn ystod yr agoriad claddwyd “capsiwl amser” ar y safle. Dewiswyd yr eitemau a roddwyd yn y capsiwl gan ddisgyblion Ysgol y Castell, Ysgol Gwenllïan ac Ysgol Mynydd y Garreg ac aelodau o Gyngor Tref Cydweli a Gweithgor Cydweli.