Mae'r elusen Gweithredu dros Blant gydag ymgyrch fis Awst - Gwrthod Mynd i'r Gwely
*******************
Rydym ni'n eich gwahodd i'r ymgyrch - Gwrthod Mynd i'r Gwely gyda Gweithredu Dros Blant ar ddydd Gwener 21 Awst 2020, i godi arian ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd bregus drwy dreulio'r noson yn y lle mwyaf anghyffredin yn eich cartref.
Gallech gysgu yn eich gardd, codi pabell dan ford y gegin, neu dreulio'r noson yn yr ystafell ymolchi. Pa le bynnag y byddwch yn cysgu, byddwch yn helpu plant a theuluoedd bregus sydd mewn angen dybryd.
Mae hi'n rhad ac am ddim i gofrestru ar gyfer Gwrthod Mynd i'r Gwely - yr oll ofynnwn yw eich bod yn codi cymaint â phosib o arian ar gyfer Gweithredu dros Blant. Gallwch ymuno gyda'ch cydweithwyr yn rhithwir a threfnu tîm; gydag adloniant rhithwir a chodi arian ar y noson, gallai hyn fod yn gyfle i chi ail-gysylltu gyda chyd-weithwyr yn dilyn misoedd o weithio o adref.
Oll sydd angen arnoch yw ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur, cysylltiad i'r we a lle anarferol i gysgu am y noson! Byddwn yn rhannu'r wybodaeth lawn o'r digwyddiad yn agosach at y dyddiad. Ar ôl cofrestru, byddwn yn danfon y newyddion diweddaraf atoch drwy e-bost.
Mae'n amser i chi wfftio'ch dŵfe, cael gwared a'ch blanced, a rhoi'ch clustog i gadw.
Ble fyddwch chi'n cysgu fis Awst yma?