11.jpg

Y Newyddion Diweddaraf

No documents found.

Digwyddiadau

Hanes Cydweli

Tref yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru yw Cydweli, rhyw 10 milltir i’r gorllewin o Lanelli. Saif y dref ar lannau Afon Gwendraeth uwchlaw Bae Caerfyrddin.  Yn dref arfordirol mae Cydweli’n ganolfan delfrydol ar gyfer ymweld â Gorllewin Cymru , Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Penrhyn G?yr a Bannau Brycheiniog.  Mae’r ardal yn gymysgedd godidog o gefn gwlad bryniog, traethlin a choetir – yn ficrocosm yn wir o weddill Cymru ar ei gorau.

Sefydlwyd Cydweli oddeutu 1115 AD a derbyniodd ei Siarter Frenhinol oddi wrth Frenin Harri’r I.

Ar hyn o bryd mae tua  3,000 o bobl yn byw yng Nghydweli ac oddeutu 30,000 o ymwelwyr yn galw heibio bob blwyddyn.

Credir bod yr enw ‘Cydweli’  yn hen iawn. Cofnodir y ffurf gynharaf o’r enw, ‘Cetgueli’,  gan y mynach Nennius, a ysgrifennai yn y 9fed ganrif.

Sefydlwyd y dref a’r castell gan y Normaniaid a oresgynnodd yr ardal yn ystod y 12fed ganrif.  Bu brwydr  yn un o’r caeau gerllaw, Maes Gwenllïan,  yn 1136 pan arweiniodd y Dywysoges Gwenllïan, chwaer Owain Gwynedd,   filwyr ei g?r yn ystod ei absenoldeb i frwydr yn erbyn y Normaniaid. Credir iddi gael ei lladd yn y frwydr neu’n fuan iawn wedyn. Er bod Cydweli’n dref hynafol tyfodd yn sylweddol yn ystod y chwyldro  diwydiannol fel llawer o drefi eraill yn Ne Cymru. Roedd y dref yn gartref i weithiau mawr yn cynhyrchu brics a thun. Bellach prin iawn yw’r dystiolaeth o’r gweithgareddau hynny ac eithrio Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.

Erbyn heddiw twristiaeth a manwerthu yn hytrach na diwydiannau trwm yw prif fusnesau’r dref.  Mae’r atyniadau hanesyddol a’r cefn gwlad prydferth yn cynnwys Castell Cydweli, a sefydlwyd yn 1106, pont a phorthdy’n dyddio o’r 14eg ganrif, yr hen gei (sydd bellach yn warchodfa natur),  Eglwys Blwyf Normanaidd, ac amgueddfa ddiwydiannol

Switch to MOBILE version