5.jpg

Y Newyddion Diweddaraf

No documents found.

Digwyddiadau

Hanes a Chwedlau Cydweli

Yn un o fwrdeistrefi hynaf Cymru a sefydlwyd oddeutu 1115, saif Cydweli yng nghysgod Castell Normanaidd mawreddog. Mewnfudwyr, masnachwyr ac amaethwyr o Loegr, Ffrainc a Fflandrys oedd trigolion cyntaf y dref a ddenwyd yno er cadarnhau gafael y Normaniaid ar yr ardal. Dinistriwyd  y castell a’r dref  sawl gwaith mewn ymosodiadau gan Gymry tanbaid.

Erbyn diwedd y 13eg ganrif roedd muriau a phyrth mawr yn amddiffyn y dref fewnol. Dechreuodd Cydweli ffynnu yn ystod y 14eg ganrif gan ddatblygu’n un  o’r canolfannau masnachu pwysicaf yng Nghymru.

Fodd bynnag erbyn y 18fed  ganrif roedd Aber y Gwendraeth wedi dechrau llenwi â llaid gan beri dirywiad yn ffyniant y dref ond daeth tro ar fyd eto yn y 19eg ganrif pan ddechreuwyd allforio glo o’r Gwendraeth Fawr.

Rhwng 1766  a 1768 adeiladodd Thomas Kymer ddociau a chamlas tair milltir o hyd yn cysylltu ei byllau glo gyda’r arfordir.

Sefydlwyd Gwaith Tunplat yn 1737 – y gwaith cynharaf ond un yn y Deyrnas. Parhaodd y dref i ffynnu yn ystod oes Victoria ac adlewyrchir hyn yn y drefwedd yn neilltuol  ym mesuriadau Gothig Neuadd y Dref

Tywysoges Gwenllïan

Mae Maes Gwenllïan wedi’i leoli rhyw filltir i’r gogledd o Gydweli.

Mae’n coffau menyw oedd yn meddu ar reddfau milwrol megis Boadicea ac a arweiniodd fyddin o Gymry yn erbyn y Normaniaid.  Roedd y frwydr hon yn rhan o’r terfysg a gododd yn dilyn marwolaeth Brenin Harri’r I ym mis Rhagfyr 1135  pan gododd y Cymry yn erbyn teyrnasiad yr estroniaid gan fygwth gwrthryfel cenedlaethol.

Sefydlwyd byddin yng Ngorllewin Brycheiniog (Sir Frycheiniog) ac ymosodwyd ar aneddiadau Eingl-normanaidd yng Ng?yr. Cafodd y Cymry lwyddiant mawr yn y frwydr rhwng Casllwchwr ac Abertawe  pan laddwyd 500 o Normaniaid.

Roedd y posibilrwydd o gael gwared ar bob estron o’i Deyrnas wedi cyffroi Arglwydd y Deheubarth (y De), Gruffydd ap Rhys, a marchogodd  i Wynedd i’r gogledd i geisio cefnogaeth i’w ymgyrch. Yn ystod ei absenoldeb fodd bynnag penderfynodd  Maurice de Londres, Arglwydd Cydweli, lansio gwrthgyrch.

Yn ateb i hynny aeth gwraig brydferth Gruffydd ap Rhys, Gwenllïan, ati i gasglu ei lluoedd ac arwain y fyddin Gymreig mewn ymosodiad ar dref a chastell Cydweli. Daethant yn erbyn grym lluoedd Maurice de Londres, yr arglwydd lleol, ym Maes Gwenllïan, y safle sydd bellach yn dwyn ei henw, a threchwyd y Cymry yn llwyr.

Lladdwyd Gwenllïan a’i mab Morgan a charcharwyd Maelgwn, mab arall. Yn ôl y chwedl dienyddiwyd Gwenllïan ac ni fu gorffwys i’w hysbryd di-ben nes i rywun chwilio maes y gad a chladdu’i phen yn ei bedd.

Mae enw Gwenllïan yn rhan annatod o Gydweli.  Hyd yn oed heddiw mae’r enw’n dal i gael ei barchu a’i edmygu yn lleol. Henffych Gwenllïan - arwres ddigamsyniol Cydweli ers 900mlynedd!

Cath Ddu Cydweli

Mae Arfbais a Sêl swyddogol Cydweli yn cynnwys Cath Ddu. A dyma’r benbleth. Newidiodd enw’r drefgordd yn sylweddol dros y canrifoedd. Yn y nawfed ganrif pan na allai ond ychydig bobl ddarllen ac ni roddwyd pwys ar sillafu ei henw oedd Cetgueli. Dim ond gyda dyfodiad  llyfrau, papurau newydd a geiriaduron y daeth sillafu’n gywir yn bwysig. Yn y 17eg ganrif roedd hyd yn oed William Shakespeare, a gafodd mwy  o ymarfer na neb bron, yn sillafu ei gyfenw  mewn wyth ffordd wahanol o leiaf!

Mae dogfennau hynafol yn cynnwys esiamplau o wahanol ffyrdd o sillafu Cydweli sef Cadwely, Catwelli, Kadewely, Keddewelly, Kadwelye, Kedwelle.  Mae’n bosib fodd bynnag mai camddealltwriaeth ynghylch tarddiad gair sydd i gyfrif am yr elfen "Cat" yn "Catwelli" - mae rhai hyd yn oed yn credu bod Cydweli wedi cael ei henwi ar ôl gwr bonheddig o’r enw Cattas, a arferai gysgu mewn coeden dderw yn y cyffiniau!

Mae eraill yn taeru mai dyfrgi oedd masgot gwreiddiol y dref. Roedd llawer o ddyfrgwn i’w gweld ar lannau’r afon o gwmpas y dref ac yn wir mae llun o un ar gofeb gerfiedig ym mynwent Eglwys y Santes Fair. Mae’r rheiny sy’n credu mai’r gath yw gwir arwyddlun Cydweli o’r gred mai’r gath ddu oedd y creadur cyntaf i’w weld yn fyw ar ôl i’r Pla Mawr fwrw’r dref. O ganlyniad cafodd ei hanrhydeddu yn symbol o iachawdwriaeth a gwaredigaeth ac yn y man fe’i defnyddiwyd yn symbol herodrol Cydweli.

Hen Fenyw Fach Cydweli

Mae nifer o bobl wedi clywed am Gydweli oherwydd y castell mawreddog a gogoneddus sydd yma. Mae eraill o bosib yn adnabyddus â’r enw oherwydd cwch Capten Catt, "S.S. Kidwelly", yn “Dan y Wenallt” Dylan Thomas". Fodd bynnag mae plant mewn ysgolion Cymraeg yn fwy cyfarwydd  gyda’r hwiangerdd Gymraeg boblogaidd:

"Hen Fenyw Fach Cydweli".

Hen fenyw fach Cydweli Yn gwerthu losin du, Yn rhifo deg am ddimai Ond unarddeg i mi. O dyna'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi Yn rhifo deg am ddimai Ond unarddeg i mi.

Mae’n bosib mai’r Arglwyddes hael Hawise de Londres yw “Hen Fenyw Fach Cydweli” a arferai fyw yng Nghastell Cydweli yn ystod ei phlentyndod yn y 13eg ganrif. Yn ôl y chwedl gwisgodd unwaith fel gwerthwr losin a chacennau er cael mynediad i’r castell pan ddychwelodd yno’n ddiweddarach i fynnu ei hawl yn Gastellan Castell Cydweli. Mae’n hanes hyfryd a phwy a ?yr – efallai mai’r hen fenyw grebachlyd a ddarlunnir yn yr hwiangerdd yw’r Arglwyddes Hawise hardd!

Switch to MOBILE version