Dyma ddiweddariad ar rai cyrsiau ychwanegol sydd ar gael.
Maent yn cynnig cyrsiau Dysgu dan Arweiniad sydd AM DDIM i fenywod mewn cyflogaeth sy'n gweithio neu'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Caerffili, Sir Benfro neu Blaenau Gwent (unrhyw un sy'n hunangyflogedig, ar gontract dim oriau neu mewn cyflogaeth ran / amser llawn neu ar ffyrlo) .
Maent yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r unigolyn ar y dewis o'u cwrs.
Isod mae amlinelliad o gynnwys y cwrs ar gyfer Diogelu, a allai fod o ddiddordeb i fenywod mewn cyflogaeth. Efallai y bydd yn eu cynorthwyo i uwchsgilio, ennill gwybodaeth a hyder yn eu swyddi.
Diogelu Lefel 2 Achredwyd gan Agored Cymru
Bydd yr hyfforddiant yn rhoi cyfle i gyfranogwyr:
Darperir deunyddiau hyfforddi wrth gofrestru. Darperir cefnogaeth 1 i 1 (er nad yw'n orfodol) trwy eu rhaglen Dysgu dan Arweiniad. Mae angen ymrwymiad o tua 10/15 awr ar gyfer pob cwrs, wedi'i wasgaru dros oddeutu 4 wythnos. Cynigir sesiynau tiwtorial ar amser sy'n addas (dydd, gyda'r nos neu ar benwythnosau) ac maent ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'r cyrsiau wedi'u hachredu gan Agored Cymru ac maent am ddim i fenywod mewn cyflogaeth sy'n gweithio neu'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Caerffili, Sir Benfro neu Blaenau Gwent.
Mae cyrsiau a chymwysterau Achrededig CYMRU eraill y gallwn eu cynnig yn cynnwys:
- Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Lefel 2 (Cymhwyster Llawn)
- Iechyd Meddwl a Straen Lefel 2 (Cymhwyster Llawn)
- Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2 (Cymhwyster Llawn)
- Gwirfoddoli a Chymuned ac Ymgysylltu Lefel 2 (Cymhwyster Llawn)
- Ymwybyddiaeth Trais yn y Cartref Lefel 1
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Debbie Williams
Swyddog Ymgysylltu Limitless
Adeilad AMBER
12 - 14 Heol Ioan, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA15 1UH
Ffon Symudol | 07496 267361
Ffon Swyddfa | 01554 700650
E-bost | dwilliams@threshold-das.org.uk
neu ewch i'w tudalen we i gael mwy o fanylion - www.threshold-das.org.uk
Dilynwch y ddolen hon i weld taflen ar y cwrs Diogelu (PDF Saesneg)