Kidwelly Town Council Logo
Menu

Hysbysiad am sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd dros Ward y Castell o Gyngor Tref Cydweli

HYSBYSIAD AM SEDD WAG AR GYFER SWYDD CYNGHORYDD DROS WARD Y CASTELL O GYNGOR TREF CYDWELI


HYSBYSIR drwy hyn yn unol ag Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 bod sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd dros Ward y Castell o Gyngor Tref Cydweli.


Cynhelir etholiad i lanw’r sedd a enwyd os rhoddir cais ysgrifenedig o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddyddiad yr Hysbysiad hwn gan ddeg etholwr o ardal etholiadol y Cyngor Tref a enwyd, i’r Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Rhif Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, sef y Swyddog Priodol o’r Cyngor Sir.


Oni wneir cais am etholiad fel y nodwyd eisoes, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Tref yn unol a darpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 2006.

Rhaid cyflwyno cais am etholiad, a lofnodwyd gan ddeg etholwr, a’i ddanfon at Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin SA31 1HQ ar unrhyw ddydd ar ôl dyddiad yr Hysbysiad hwn, ond heb fod yn ddiweddarach na Dydd Gwener, 25ain Hydref, 2019. Os gwneir cais am etholiad, cynhelir yr etholiad o fewn trigain diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn.

DYDDIEDIG 07fed Hydref 2019.

Virginia O'Reilly,

Clerc y Dref

Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Gwenllian
Cydweli
SA17 4UL

 

I gael gweld yr hysbysiad, dilynwch y ddolen yma.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.