1. Dyddiad y cyhoeddiad: Mehefin 4ydd 2019
2. Bob blwyddyn, mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati yn ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Am y flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2019, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol drwy wneud cais i:
Virginia O'Reilly, Cyngor Tref Cydweli, Hillfield Villas, SA17 4UL
rhwng yr oriau 9.00 y bore a 1.00 y prynhawn ar Ddydd llun i Ddydd Gwener gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2019 a gorffen ar 26 Gorffennaf 2019.
3. O 29 Gorffennaf 2019 hyd nes bod yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:
4. Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd i ddod >>