Kidwelly Town Council Logo
Menu

Hysbysiad o ddyddiad penodi ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Hysbysiad o ddyddiad penodi ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
CYNGOR TREF CYDWELI
Diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2020

1. Dyddiad cyhoeddi 29ain Awst 2020

2. Bob blwyddyn, caiff y cyfrifon blynyddol eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson â diddordeb y cyfle i archwilio a gwneud copïau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy'n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl rhoi rhybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020, bydd y dogfennau hyn ar gael ar hysbysiad rhesymol wrth wneud cais i:
Clerc y Dref, Swyddfeydd y Cyngor, Hillfield Villas, Cydweli,
SA17 4UL
rhwng yr oriau o 9.30 y bore – 12.30 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Iau
yn dechrau ar 14eg o Fedi 2020
ac yn diweddu ar yr 9fed o Hydref 2020

1. O 10 Hydref 2020 hyd nes y bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan etholwyr llywodraeth leol a'u cynrychiolwyr hefyd:
• yr hawl i gwestiynu'r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon. Gellir cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton; a chael
• yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i'r Cyngor.
• Gellir cysylltu â Grant Thornton yn: Grant Thornton, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT

2. Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 a chod ymarfer archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen yr hysbysiad (copi PDF)

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.