
Swyddfa’r Cyngor, Hillfield Villas
Cydweli, Sir Gaerfyrddin. SA17 4UL
Ffôn: 01554 890203
e-bost: towncouncil@kidwelly.gov.uk


Lleoliad delfrydol ar gyfer Cyngherddau, Cyfarfodydd, Digwyddiadau, a Gweithgareddau Chwaraeon.
Agorwyd Canolfan Tywysoges Gwenllïan ym mis Mai 2001 ac mae’n gyfleuster ardderchog. Mae wedi’i leoli yn Hillfield Villas, Heol yr Orsaf, Cydweli
Mae Ardal y Dderbynfa yn cynnwys ardal goffi a chegin sy’n cynnwys pob cyfarpar, 2 Ystafell Swyddfa, a thoiledau i Fenywod, Dynion a Phobl Anabl. Mae’r Ganolfan yn gallu darparu ar gyfer partïon plant, partïon chwaraeon ac mae yno far trwyddedig ar gyfer achlysuron.
Mae’r Brif Neuadd yn mesur 30 x 16 metr a lle i eistedd 450 o bobl. Gellir ail lunio’r llwyfan hyblyg sy’n mesur 6 x 24 metr ar gyfer sawl defnydd, e.e. fel rhodfa ar gyfer sioe ffasiynau, yn rhesi ar gyfer corau neu fel llwyfan arferol y gellir ei osod ar wahanol lefelau.
Y tu allan i’r neuadd mae patio helaeth y gellir eil logi sy’n ddelfrydol ar gyfer barbeciws yn yr haf. Mae maes parcio wyneb caled ar gael ar gyfer 28 o geir a maes parcio wrth gefn ag wyneb craidd caled yn y cefn. Mae Canolfan Tywysoges Gwenllïan yn lleoliad delfrydol ar gyfer gwerthu, ocsiynau a chyflwyniadau gan gwmnïau
Cynhelir nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yng Nghanolfan Tywysoges Gwenllïan yn cynnwys: Digwyddiadau Ysgol, Y Clwb Camerâu, Aerobeg, Pêl-droed 5 bob ochr (iau a hyn), Pêl-rwyd, Badminton (iau a hyn) Bowlio Byr, Criced a Thenis Bwrdd.
I neilltuo lle ac i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gofalwr drwy ffonio: 01554 891801