
Swyddfa’r Cyngor, Hillfield Villas
Cydweli, Sir Gaerfyrddin. SA17 4UL
Ffôn: 01554 890203
e-bost: towncouncil@kidwelly.gov.uk

Three Rivers Hotel & Spa Glanyfferi. SA17 5TU |
Carmarthen Bay Holiday Park Port Way. Cydweli SA17 5HQ |
Carmarthen Bay Holiday VillageCroeso. Mae pob uned Ffos Las â golygfa o’r môr, tair ystafell wely a lle i hyd at 7 unigolyn. Rydym yn cynnig llety hunanarlwyo moethus. Gallwn deilwra arhosiad i fodloni eich anghenion unigol. Golygfeydd godidog ac anhygoel o’r môr ac ond ychydig gamau yn unig o’r tywod. Mae’r cabanau wedi’u lleoli ym mharc poblogaidd Carmarthen Bay Holiday Village ac o fewn taith fer mewn car i gae rasio Ffos Las. Carmarthen Bay Holiday Village. Cydweli. SA17 5HQ |
Cartref Gwyliau Hardd - CydweliCartref gwyliau yng Nghydweli wedi’i foderneiddio’n llwyr a lle i 10 unigolyn gysgu ynddo. 5 ystafell wely -3 yn cynnwys ystafell ymolchi, ystafell ymolchi i’w rhannu â chawod uwchben a thoiled ar wahân. Lolfa â stôf yn llosgi coed ar gyfer nosweithiau clyd, feranda a golygfeydd panoramig o aber y Gwendraeth. Gerddi a lawnt / pâr o siglenni i blant yn y cefn a digon o le i barcio dau gar. Gerddi wedi’u cynnal a’u cadw’n dda yn y blaen a’r cefn. Croesewir anifeiliaid anwes Tegwen Burns: 07966 696673 |
Jaron Bed & Breakfast Mae croeso cynnes yn eich aros yn Jaron Bed & Breakfast and Self
Catering Cottage. Ffôn: 01554 832117 |
Penlan Isaf Bed & BreakfastLlety yn cynnig Gwely a Brecwast 4 seren sy’n edrych dros dref hynafol Cydweli yw Penlan Isaf. Ceir golygfeydd gwych o Benrhyn G?yr a chefn gwlad. Ystafelloedd gwely hyfryd yn cynnwys ystafell ymolchi. Mae croeso cynnes a phrydau ardderchog wedi’u coginio gartref yn eich aros yma. Ystafell Ddwbl neu Ystafell â Dau Wely yn cynnwys Ystafell
Ymolchi £55 |
Cydweli Bed & Breakfast Wedi’i leoli yng Nghanol y Dref.
Adnewyddwyd y llety’n llwyr i safon uchel ar gyfer 2009 ac rydych yn
si?r o groeso cynnes yma.
3 Ystafell ddwbl- 2 yn cynnwys ystafell â chawod, 1 yn cynnwys ystafell
â baddon /cawod - 1 ystafell â dau wely yn cynnwys ystafell â chawod.
Mae gwres islawr ym mhob ystafell, gwelyau o’r safon orau a dillad
gwely moethus, teledu lliw sgrin fflat, cyfleusterau i wneud diod,
taclau ymolchi, sychwr gwallt, radio larwm, ac ati.
Maes parcio mawr a diogel yn y cefn a lle dan do i gadw beiciau.
Brecwast cynnar a hwyr ar gael. Dewis o frecwastau yn cynnwys cynnyrch
lleol o’r ansawdd gorau a bwyd cartref. Cinio pecyn a basgedi bwyd
ar gael. £70 Gwely a Brecwast i ddau mewn ystafell ddwbl/ystafell dau wely Nick a Gerri Tennant, 62 Stryd y Sarn,
Cydweli,
SA17 4SU |
|
Middle Mill Guest House Hen felin dd?r sydd wedi’i throsi yn d? llety hardd. Mae wedi’i leoli ar dir tyddyn bach sy’n golygu y byddwch yn cael wyau ffres i frecwast. Mae yma ystafell fyw / ystafell fwyta fawr i bawb ei rhannu ac mae teledu sgrin fawr a DVD ar gael ar gais. Gellir cael prydau min nos wedi’u coginio gartref o’u harchebu ymlaen llaw ond codir tâl ychwanegol amdanynt. Taith gerdded 10 munud i Gastell Cydweli ac mae teithiau cerdded lleol ar gael yn y dref a’r ardal o gwmpas Middle Mill Guest House,
Heol Caerfyrddin,
Cydweli,
SA17 5AA |
Parc y Llong Holiday CottagesAdeiladwyd bythynnod hyfryd Parc y Llong yn wreiddiol yr 17eg ganrif ar gyfer gweithwyr yr hen gamlas. Maent wedi’u lleoli yng nghysgod y dirwedd fryniog sy’n llawn dolydd a choetiroedd naturiol ac yn gartref i fywyd a blodau gwyllt. Ffinir y tir hudolus hwn gan Afon Gwendraeth. Parc y Llong,
Cydweli,
SA17 4RN |