Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 04/12/2020 Llywodraeth Cymru

Penawdau Newyddion

Cymorth £340m ar gyfer busnesau Cymru wrth i’r rheolau coronafeirws newydd gael eu cyhoeddi

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi set o gyfyngiadau newydd wedi’u targedu ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden yn ogystal â phecyn cymorth gwerth £340m. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r cyfyngiadau teithio diweddaraf i atal coronafeirws

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau na chaniateir teithio rhwng Cymru ac ardaloedd o gyfraddau coronafeirws uchel y DU o 6pm yfory am dydd Gwener 4 Rhagfyr. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyflwyno profion COVID cyflym rheolaidd i staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen yng Nghymru

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi y bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen yng Nghymru sy’n asymptomatig yn cael eu profi yn rheolaidd. Bydd y profion yn cael eu cyflwyno’r mis hwn. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyflwyno clinigau grŵp rhithwir ar draws GIG Cymru

Cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd clinigau grŵp rhithwir ar draws Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn cael eu hehangu i gynnwys ymgyngoriadau grŵp rhithiwr, neu glinigau grŵp rhithiwr, ar gyfer cleifion allanol ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal yn y gymuned. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Canllawiau newydd ar gyfer Ymweliadau ysbyty yn ystod pandemig y Coronafeirws

Caiff canllawiau diwygiedig newydd ar gyfer ymweld ag ysbytai GIG Cymru eu cyhoeddi ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau a gyhoeddwyd gynt. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Ymgyrch newydd yn annog pobl i ‘sicrhau eich bod yn gwybod am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyflogaeth'

A COVID-19 yn gefndir iddo, cyhoeddwyd ymgyrch newydd gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a hynny er mwyn cryfhau dealltwriaeth pobl o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyflwyno profion torfol yng Nghwm Cynon Isaf

Bydd pawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghwm Cynon Isaf yn cael cynnig prawf coronafeirws. Dyma fydd yr ail ardal yng Nghymru i gyflwyno profion torfol, gan ddilyn Merthyr Tudful. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£200,000 o gymorth ariannol i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2020 i 21

Wrth i'r Ffair Aeaf rithwir ddechrau heddiw, mae'r Gweinidog Dros Faterion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi cymorth ariannol o £200,000 i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2020 i 21. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.