Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 07/10/2021 Llywodraeth Cymru

Penawdau Newyddion

Cynllun newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y gaeaf “heriol” sydd o’n blaenau

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar ei newydd wedd. Yn y Cynllun, rhoddir manylion bras y camau gweithredu allweddol a allai gael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws. Dilynwch y ddolen hon am ragor o fanylion.

Datganiad y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol adolygiad 21 diwrnod COVID-19

Datganiad y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar yr adolygiad 21 diwrnod diweddaraf. Dilynwch y ddolen hon am ragor o fanylion.

Y gwaith o ddarparu brechlyn COVID i blant 12 i 15 oed yn cyflymu yng Nghymru

Wrth i blant 12 i 15 mlwydd oed ar draws Cymru ddechrau cael eu brechu rhag COVID, heddiw mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau y byddan nhw i gyd yn cael cynnig brechiad erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref. Dilynwch y ddolen hon am ragor o fanylion.

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau newidiadau i deithio rhyngwladol ac yn galw i gadw profion PCR

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn uno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren ac yn dileu’r gofyniad am brawf cyn ymadael i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn. Dilynwch y ddolen hon am ragor o fanylion.

£36.6 miliwn i helpu teuluoedd a phlant i adfer o’r pandemig

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod £36.6 miliwn ychwanegol wedi ei neilltuo i helpu plant a theuluoedd i adfer o effeithiau’r pandemig a’i gyfyngiadau, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl. Dilynwch y ddolen hon am ragor o fanylion.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.