Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 11/12/2020 Llywodraeth Cymru

Penawdau Newyddion

Cyhoeddi cynllun rheoli COVID-19 wedi’i ddiweddaru

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun rheoli COVID-19 ar gyfer Cymru yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf. Mae'r cynllun yn nodi'n fanwl sut y bydd mesurau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy unffurf a rhagweladwy, yn dibynnu ar ystod o ddangosyddion, gan gynnwys lefel y feirws yng Nghymru a’r risg heintio. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws'

Bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' cadarnhaodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn mynd yn fyw .

Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Lleihau’r cyfnod hunan-ynysu a chwarantin ar gyfer y coronafeirws i ddeng niwrnod yng Nghymru

O ddydd Iau Rhagfyr 10fed bydd yr amser y mae’n rhaid i bobl hunan-ynysu yn cael ei leihau o 14 niwrnod i ddeg yng Nghymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Dechrau cyflwyno brechlynnau COVID-19 yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y brechlyn COVID-19 cyntaf yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru o Ddydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cynllunio ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru ar ôl gwyliau'r Nadolig. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cynllunio ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru ar ôl gwyliau'r Nadolig. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyhoeddi’r swm uchaf erioed o £227m i ehangu gweithlu GIG Cymru

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, ei fod yn neilltuo’r swm uchaf o gyllid erioed, sef dros £227m, i sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol. Dyma gynnydd o dros £16m ers y llynedd. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cynllun taliadau £500 yn awr ar gael i rieni a gofalwyr plant sy’n gorfod hunanynysu

Bydd rhieni a gofalwyr ar incwm isel y mae eu plant yn gorfod hunanynysu yn gymwys i gael taliad cymorth o £500. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cronfa Adferiad Diwylliannol – cymorth hanfodol yn gwneud gwahaniaeth

“Mae’n rhaid i’r Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru oroesi’r pandemig hwn” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.