Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 18/06/2021 Llywodraeth Cymru

Penawdau Newyddion

Newidiadau i’r rheolau ar stop am bedair wythnos wrth i amrywiolyn delta ledaenu

Ddydd Gwener (18 Mehefin), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cynnig brechlyn i bob oedolyn yng Nghymru yn gynt na’r disgwyl

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi diolch i dimau brechu gwych Cymru, wrth iddi gadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechiad erbyn dydd Llun (14 Mehefin). Mae hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Y Gweinidog Iechyd yn annog pobl i gael eu brechu wrth i nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta gynyddu

Wrth i Gymru weld cynnydd yn nifer yr achosion o amrywiolyn Delta, mae pobl yn cael eu hannog i fanteisio ar eu cynnig o frechlyn. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y camau i symud yn raddol i lefel rhybudd 1

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1, megis atyniadau dan do a lleoliadau priodas, yn cael gwerth £2.5m o gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

‘Rhaid inni fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cymorth i’r rheini sy’n gwella o effeithiau COVID-19 – dyna adduned y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wrth i’r rhaglen gymorth Adferiad newydd gael ei lansio

‘Mae buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglen gymorth benodedig ar gyfer y rheini sy’n gwella o effeithiau hirdymor COVID-19 yn hanfodol wrth inni ddechrau ailgodi ar ôl y pandemig’, dyna addewid y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ar ôl cwrdd â chlinigwyr a chleifion. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.