Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 Llywodraeth Cymru 14/01/2022

Penawdau Newyddion

Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynllun heddiw ar gyfer mynd â Chymru yn ôl i fesurau lefel rhybudd sero. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Prif Weinidog Cymru yn bwriadu amlinellu cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau

Mae'r Prif Weinidog yn nodi sut y mae Cymru yn bwriadu symud yn ôl i lefel rhybudd sero os bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£15.4 miliwn i helpu i gefnogi sectorau Celfyddydau a Diwylliant Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £15.4 miliwn ar gael i gefnogi'r sectorau celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus COVID-19, mae'r Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig

Ar dydd Iau, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Gweinidogion Cyllid yn galw am hyblygrwydd gyda chyllid COVID

Ar ôl iddynt gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw ar y cyd i’r Trysorlys roi sicrwydd y bydd yr arian sy’n cael ei neilltuo i gefnogi’r ymateb i COVID yn cael ei ddarparu'n llawn. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

“Helpwch ni i’ch helpu chi y gaeaf hwn” – y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn annog pawb i'n ‘helpu ni, i’ch helpu chi’ wrth iddi gyhoeddi rhagor o gyllid i liniaru’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol a’u helpu y gaeaf hwn. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.