Newyddion Coronafeirws COVID-19 Llywodraeth Cymru 30 Hydref 2020
Penawdau Newyddion
Cam £300 miliwn o’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor i ymgeiswyr
Gall fusnesau bellach wneud cais am gyllid o drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Mwy na 5,500 o fusnesau’n ymgeisio am £100 miliwn y grantiau datblygu busnes
Mae tros 5,500 o fusnesau wedi gwneud cais am y £100 miliwn oedd wedi’i neilltuo ar gyfer elfen grantiau busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
£12.5m i gefnogi teuluoedd a phlant agored i niwed yn ystod y pandemig
Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £12.5m i gefnogi plant a theuluoedd sy’n agored i niwed. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
10 miliwn ychwanegol i helpu i ddiogelu swyddi a’r bobl sy’n cael anawsterau ariannol
Galwodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ar gyflogwyr i ddefnyddio cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i ddiogelu gweithwyr sydd mewn perygl o fod yn anghymwys ar gyfer cynlluniau cymorth cyflogau Llywodraeth y DU. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Coronafeirws: cymorth ariannol i gadw eich gweithwyr
Mae'r Cynllun Cadw Swyddi yn helpu cyflogwyr gyda chynllun PAYE i dalu costau staff. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth i Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae’r cwmni yn cynhyrchu yr offer camera diweddaraf ar gyfer y diwydiant darlledu o’i ganolfan ragoriaeth lwyddiannus. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Y Gronfa Cadernid Economaidd yn cefnogi gweithgynhyrchwr modurol yn Llanelwy
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi cefnogi cwmni sy’n gweithgynhyrchu darnau modurol yn Llanelwy, gan ei alluogi i gadw ei weithlu a pharhau i weithredu. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Y diweddaraf gan y Gweinidog Addysg ar gymwysterau yng Nghymru
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Ysbryd cymunedol yn disgleirio yng Nghymru
Bron i wythnos ers i gyfyngiadau cenedlaethol y cyfnod atal byr ddod i rym yng Nghymru, mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt wedi diolch i'r gwirfoddolwyr a'r grwpiau cymunedol sydd wedi bod yn cynnig gobaith a chymorth yn eu hardaloedd lleol, yn ddiweddar ac yn ystod y cyfyngiadau cenedlaethol blaenorol. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Y coronafeirws – gweithwyr allgymorth newydd i gefnogi cymunedau BAME
Dydd Iau 29 Hydref cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd Byrddau Iechyd Cymru yn cyflogi gweithwyr allgymorth newydd i gefnogi pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), - yn cydnabod yr effaith anghymesur y mae coronafeirws yn ei chael. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Cyflwyno dau gynllun yng Nghymru i helpu pobl i hunanynysu
Bydd pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu am hyd at 14 diwrnod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wrth i ddau gynllun newydd gael eu cyhoeddi. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Gwneud cais am y Grant ar Gyfer Darparwyr Gofal plant
Gall darparwyr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd meithrin, crèches a chlybiau y tu allan i’r ysgol wneud cais am hyd at £5,000 i fynd i’r afael ag incwm a gollwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Datganiad ar y cyd gan CBI Cymru, Consortiwm Adwerthu Cymru, Cymdeithas Siopau Cyfleustra ac USDAW
Mae Llywodraeth Cymru, grwpiau cynrychioli busnesau, yr Undebau Llafur ac adwerthwyr hanfodol wedi bod yn cydweithio’n glos dros y dyddiau diwethaf ar y rheolau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfyngu ar werthu eitemau dianghenraid dros y cyfnod atal o 17 niwrnod. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Cyfnod atal y coronafeirws: cwestiynau cyffredin
Canllawiau ynghylch y rheolau cyfnod atal byr sy’n dod yn lle rheolau lleol a chenedlaethol blaenorol. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Cau busnesau ac adeiladau: coronafeirws (COVID 19)
Busnesau ac adeiladau nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid eu cau. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais
Mae’r canllawiau hyn yn darparu cyngor ac yn gosod disgwyliadau mewn perthynas â chymorth i ddysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais ar gyfer amrywiaeth o senarios. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Canllawiau ar aelwydydd estynedig: coronafeirws
Rheolau a fydd yn berthnasol i fod mewn aelwydydd estynedig a chyngor ar sut i ffurfio un. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Canllawiau ar angladdau
Canllawiau ar gynnal a mynychu angladdau yn ystod y pandemig coronafirus. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Teithwyr sy’n esempt rhag rheolau ffiniau Cymru
Esbonio pwy fydd wedi eu heithrio rhag rheolau ffiniau newydd Cymru a gyflwynwyd o ganlyniad i'r coronafeirws. Bydd y rheolau yn berthnasol i deithwyr i'r DU o 8 Mehefin 2020. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Hysbysiad Addasu Gofynion y Cwricwlwm yng Nghymru 2020
Mae'n addasu dros dro y gofyniad i ysgolion a meithrinfeydd heb ei gynnal a gyllidir i ddarparu'r cwricwlwm sylfaenol a'r trefniadau asesu cysylltiedig. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Hysbysiadau sy'n datgymhwyso gofynion amser sesiynau ysgol sy'n newid
Yn dileu'r gofyniad dros dro i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol i gydymffurfio a gweithdrefnau ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Swyddfeydd a chanolfannau cyswllt: canllawiau'r gweithle y coronafeirws
Sut i weithio'n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19 os ydych yn gweithio neu'n cyflogi pobl mewn swyddfa neu ganolfan gyswllt. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Coronafeirws: cymorth i fusnesau pysgota
Cymorth a chefnogaeth ariannol i fusnesau pysgota a physgotwyr sy'n dioddef oherwydd coronafeirws. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Gweithgynhyrchu: canllawiau coronafeirws
Cyngor i ailddechrau eich busnes gweithgynhyrchu a rheoli risg COVID-19 i gyflogeion. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.