Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 Llywodraeth Cymru 9fed Hydref 2020

Penawdau Newyddion

Hwb gwerth sawl miliwn i gefnogi addewidion ar ôl COVID-19

Bydd Cymru yn adeiladu dyfodol newydd yn dilyn pandemig y coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, gan ddarparu £320m ar gyfer gwaith ail-greu uniongyrchol.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor. 

Cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol o effaith COVID-19 nawr ar agor

Mae gweithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru’n bellach yn gallu ymgeisio am eu cyfran o gronfa gwerth £7 miliwn sy’n targedu’n arbennig y rheini yn y sector llawrydd sydd wedi’u taro galetaf gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Ymgyrch newydd i helpu pobl i chwilio am gyfleoedd newydd

Fel rhan o’i hymateb i coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth mae’n ei ddarparu ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan ddiswyddiadau, mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi dweud.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Lansio cynllun yng Nghymru i helpu tenantiaid sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws

Cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, gynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth newydd gwerth £8 miliwn i helpu tenantiaid sy’n ei chael hi’n anodd i dalu ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i’r coronafeirws.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Safleoedd profi galw i mewn newydd i agor yn agos at brifysgolion Cymru

Bydd nifer o drefi a dinasoedd Prifysgol yng Nghymru’n elwa ar Safleoedd Profi Lleol Galw i Mewn newydd.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

“Nawr yn fwy nag erioed mae angen i bobl feddwl yn ofalus ymhle i ofyn am gyngor er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gaeaf hwn.”

Dyma alwad Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth i’n gwasanaethau gofal iechyd a’n byrddau iechyd barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Y Gronfa Cadernid Economaidd – dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y trydydd cam

Gall busnesau ledled Cymru bellach gael gwybod a ydyn nhw’n gallu gwneud cais am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Fferyllfeydd cymunedol yn dweud bod mwy yn manteisio ar y brechlyn ffliw wrth i Gymru gynnal ar ei rhaglen frechu fwyaf

Ers y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai Cymru’n cynnal ei rhaglen frechu fwyaf rhag y ffliw erioed, mae'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn eisoes yn uchel.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Cymru wedi 'arwain y ffordd' wrth ddarparu TG a gwersi ar-lein i ddisgyblion drwy gydol y pandemig

Mae'r ffordd y darparodd Llywodraeth Cymru liniaduron a dyfeisiau wi-fi i fynd i'r afael â'r diffyg mynediad at ddysgu ar-lein a achoswyd gan y pandemig coronafeirws wedi'i ddisgrifio fel un clodwiw mewn adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Y Prif Weinidog yn cryfhau’r tîm iechyd Gweinidogol

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cryfhau ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws ymhellach drwy ad-drefnu portffolios Gweinidogol allweddol.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Mae’n rhaid i Gymru dderbyn cyfran deg o’r cyllid Ymchwil a Datblygu i gyflawni ei photensial – Gweinidog yr Economi

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi annog Llywodraeth y DU i gefnogi Cymru i gyrraedd ei photensial llawn drwy sicrhau bod cyfran deg o’r cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cael ei gyfeirio tuag at brosiectau Cymru.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Cadw dysgwyr yn ddiogel mewn addysg

Gwybodaeth a chanllawiau ategol i helpu ysgolion a darparwyr eraill i gadw dysgwyr yn ddiogel.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Ymweld ag ysbytai yn ystod y coronafeirws: canllawiau

Sut y gall y GIG helpu pobl i ymweld ag ysbytai mewn modd diogel sydd wedi’i drefnu yn ystod pandemig y coronafeirws.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Canllawiau ar dacsis a cherbydau hurio preifat

Gwybodaeth ar gyfer y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Chwaraeon a hamdden: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol

Canllawiau i bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau chwaraeon a hamdden.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Datganiad Ysgrifenedig: Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru)

Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu: canllawiau

Adnodd asesu risg COVID-19 Cymru gyfan ar gyfer y gweithlu canllawiau i reolwyr a staff.  Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.