Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Cyngor Sir Gaerfyrddin 19eg Mawrth 2021

Ymateb Cymunedol i Covid-19: holiadur byr

Mae cynnydd wedi bod mewn gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin yn ystod y pandemig COVID-19. Mae CGGSG, Cyngor Sir Caerfyrddin a’i bartneriaid yn edrych i sicrhau bod gwirfoddoli ar ôl y pandemig yn cael ei osod ar sylfaen gynaliadwy.

Er mwyn gwneud hyn, yn gyntaf mae angen i ni ddeall yr amrywiaeth o weithgareddau y mae sefydliadau, grwpiau cymunedol a’u gwirfoddolwyr wedi ymgymryd â nhw. Drwy gwblhau’r holiadur byr yma byddwch yn ein helpu i adnabod bylchau ac anghenion gwirfoddolwyr yn y dyfodol.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn cwblhau'r holidaur

Cyfrifiad 2021

Mae’r cyfrifiad yn dod ddydd Sul 21 Mawrth ac mae’n mynd ar-lein. Cyfrifiad 2021 fydd y cyfrifiad digidol cyntaf. Bydd côd mynediad yn cael ei anfon drwy’r post gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn y cyfnod yn arwain at y cyfrifiad, byddwn yn defnyddio amrywiaeth o sianeli i hyrwyddo Cyfrifiad 2021.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth

Kickstart

Mae Cynllun Kickstart yn helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddiwaith yn y tymor hir i gael swydd, drwy ddarparu cyllid gan y Llywodraeth i gyflogwyr greu lleoliadau gwaith chwe mis. Bydd y cyllid yn cwmpasu 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos, ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig ac isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr.

Bydd angen i chi fod yn Elusen Gofrestredig neu wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau ac mae angen i chi fod wedi bod yn masnachu ers dros 2 flynedd. Bydd telerau eraill hefyd yn berthnasol - i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges i Andrew Bowley : ABowley@carmarthenshire.gov.uk

Grantiau a thaliadau - COVID-19

Mewn ymateb i’r argyfwng COVID-19, mae nifer o gynlluniau wedi cael eu lansio i roi cymorth ariannol i helpu elusennau a grwpiau cymunedol / gwirfoddol i barhau i ddarparu gwasanaethau a chymorth y mae mawr angen amdano yn eu cymunedau.

Mae cyllid ar gael i fusnesau a sefydliadau yr effeithiwyd arnynt mewn ffordd negyddol gan COVID-19. Rydym yn argymell eich bod hefyd yn ymweld â’n tudalen cymorth busnes a gwefan Busnes Cymru. Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i Ddatblygu Economaidd a busnesau ategol, rydym hefyd yn cynnig nifer o gynlluniau cymorth ariannu i fusnesau o bob graddfa ac ym mhob cam yn eu datblygiad.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth

Holidadur dosbarthu bwyd

Mae rhaglen LEADER yn Sir Gar, Ceredigion a Sir Benfro wedi comisiynu Miller Research i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar fodelau logisteg cynaliadwy o ddosbarthu bwyd yn y tair sir uchod.

Fel rhan o’r ymchwil, rydym wedi creu arolwg defnyddwyr ar-lein i bobl sy’n byw yn y rhanbarth ynghylch prynu bwyd lleol, i ddeall yn well y patrymau prynu presennol, yn ogystal â chymhellion allweddol i brynu’n lleol a rhwystrau rhag gwneud hynny.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn cwblhau'r holidaur

Yn wythnosol, Bwletin y Brechlyn – BIP Hywel Dda

Bob wythnos, bydd BIP Hywel Dda yn cyhoeddi Bwletin y Brechlyn, i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd Rhaglen Brechy Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae rhifyn 10 ar gael i'w ddarllen yma drwy ddilyn y ddolen hon

Menter Deg Tref

A allai technoleg ddigidol helpu eich tref i ddod o hyd i atebion i rai o'i heriau a hefyd i ddarparu cyfleoedd?

Fel rhan o fenter Deg Tref, bydd sesiynau ymgysylltu â'r gymuned yn cael eu cyflwyno i edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol, yn benodol IOT a LoRaWAN i ddarparu atebion i gymuned eich tref.

Cynhelir digwyddiadau penodol ar gyfer pob tref dros yr wythnosau sydd i ddod.

Danfonwch neges at MEPemberton@carmarthenshire.gov.uk er mwyn cymryd rhan.

Ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'

O ystyried y pwysau ariannol difrifol sy’n debygol o fod ar lawer o deuluoedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Tlodi Plant, cynllun gweithredu pwyslais ar Incwm ym mis Tachwedd 2020. Mae'r cynllun yn nodi cyfres o gamau ymarferol y bydd gweinidogion yn gweithio arnynt dros gyfnod o chwe mis i helpu i sicrhau’r incwm mwyaf posibl i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, helpu i leihau costau byw hanfodol a rhoi cymorth i deuluoedd i ddatblygu cadernid ariannol.

Prif amcan yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o'r budd-daliadau sydd ar gael i deuluoedd yng Nghymru a'u hannog i wirio'r hyn y gallai fod ganddyn nhw hawl iddo.

Mae angen eich cymorth chi i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch ar draws eich sianeli a'ch rhwydweithiau, i gyrraedd pobl nad ydyn nhw'n hawlio budd-daliadau y gallai fod ganddyn nhw hawl iddynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres o asedau (gan gynnwys hysbyseb i'r wasg, taflen A5 a fideos cyfryngau cymdeithasol x 4) y gellir eu hychwanegu'n hawdd at wefannau a sianeli cymdeithasol.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor

Armed Forces Covenant Fund Trust

Grantiau o hyd at £100,000 ar gael i sefydliadau sy'n gweithio gyda Chymuned y Lluoedd Arfog! Mae'r gymuned hon yn cynnwys cyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, eu gwŷr/gwragedd a'u dibynyddion.

Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog (dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor) yn dyfarnu grantiau drwy raglenni ariannu penodol, pob un â'i nod(au) ei hun yn aml yn seiliedig ar ymgynghori â'r gymuned.

Bydd Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn agor ffrydiau ariannu newydd i barhau i gefnogi prosiectau elusennol presennol sy'n gweithio gyda Chymuned y Lluoedd Arfog.

Os ydych yn cynrychioli elusen neu sefydliad sy'n rhoi cymorth i aelodau sy'n gwasanaethu a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog Prydeinig sydd mewn angen, gallwch wneud cais hefyd am grant gan Sefydliad y Cyn-filwyr (dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor).

I gael rhagor o fanylion am y grant hwn dilynwch y ddolen hon.

COVID 19 WhatsApp Iechyd Cyhoeddus Cymru

A ydych yn arweinydd cymunedol neu rwydwaith? A fyddech yn cael budd o dderbyn y negeseuon diweddaraf am COVID-19, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau, yn uniongyrchol i'ch ffôn symudol ac yn barod i'w hanfon i'ch rhwydwaith?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ehangu ei fformat negeseuon WhatsApp drwy ei anfon yn uniongyrchol at arweinwyr rhwydwaith sy'n gweithredu ar sianeli fel Whatsapp, Facebook messenger, Slack a mwy.

Os hoffech dderbyn y negeseuon hyn, cysylltwch â ni yn PHW.Covid19Comms@wales.nhs.uk a rhowch wybod i ba rif ffôn symudol yr hoffech i ni anfon y negeseuon iddo, y sefydliad/grŵp cymunedol yr ydych yn gweithio gyda nhw ac ym mha le. Rhowch COVID19 WhatsApp yn deitl ar gyfer y neges e-bost.

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.