Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Cyngor Sir Gaerfyrddin 26ain Awst 2021 gan gynnwys casgliadau gwastraff Gŵyl y Banc

Casglu biniau dros Ŵyl Banc Awst

Mae trigolion yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa y bydd newidiadau i'r drefn casglu biniau dros Ŵyl Banc Awst.

O ddydd Llun 30 Awst tan ddydd Gwener 3 Medi bydd y casgliadau'n digwydd un diwrnod yn hwyrach na'r arfer. Cofiwch y bydd casgliadau dydd Gwener yn cael eu casglu ddydd Sadwrn yn lle hynny.

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gasgliadau gwastraff gardd hefyd.

Rhowch eich biniau mas erbyn 6am ar y diwrnod casglu os gwelwch yn dda, a chofiwch, dim mwy na thri bag du bob pythefnos. Ailgylchwch gymaint â phosibl yn eich bagiau glas os gwelwch yn dda, a rhowch unrhyw wastraff bwyd yn eich biniau gwyrdd, sy'n cael eu casglu'n wythnosol.

Mae'r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. I drefnu apwyntiad, ewch i dudalennau'r canolfannau ailgylchu.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Taith Prydain yn dychwelyd i Sir Gaerfyrddin

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal cymal tri o Daith Prydain 2021 ar 7 Medi 2021.

Diwrnod o rasio sy'n dechrau yn Ffair-fach ar gyrion Llandeilo ac yn gorffen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol eiconig Cymru yn Llanarthne. Bydd beicwyr gorau'r byd yn wynebu prawf amser unigol sy'n 17.7km drwy olygfeydd godidog Dyffryn Tywi.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Terfyn cyflymder newydd o 20mya yn cael ei gyflwyno mewn ardal helaeth o Lanelli

Mae terfyn cyflymder newydd o 20mya yn cael ei gyflwyno mewn ardal helaeth o Lanelli fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder sydd wedi'i rhagosod yn genedlaethol.

Mae Gogledd Llanelli, sy'n cynnwys Dafen, rhai rhannau o Felin-foel ac ardal Llanerch, wedi'i dewis fel un o wyth cymuned yng Nghymru i dreialu terfyn cyflymder cenedlaethol arafach o 30mya i 20mya mewn ardaloedd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Y Cyngor yn cyhoeddi gwaith gosod wyneb newydd ar y ffyrdd

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd £2.2 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ffyrdd Sir Gaerfyrddin dros y misoedd nesaf.
Bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar ryw 50 o ddarnau ffordd ar ôl i arian ddod ar gael o raglen gwaith cyfalaf y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn ychwanegol at raglen o waith ataliol sydd eisoes wedi dechrau.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Ap newydd yn arwain archwilwyr ar lwybr o amgylch Parc Gwledig Llyn Llech Owain

Mae llwybr archwilio realiti estynedig newydd wedi'i lansio er mwyn i deuluoedd allu mwynhau profiad newydd ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r llwybr yn rhan o gyfres o welliannau yn y parc sy'n cynnwys canolfannau ymwelwyr ac addysg, lle chwarae i blant y blynyddoedd cynnar wedi'i ailwampio, gwaith tirlunio a gwell llwybrau troed, ynghyd â Hwb Gwaith Llesiant i bobl weithio a chynnal cyfarfodydd yn yr ardal heddychlon.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio barn i wella lles lleol

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin (BGC) yn ceisio barn preswylwyr i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw a'u cymunedau lleol.
Bydd y canlyniadau a gesglir yn helpu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall y ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy'n effeithio ar les unigolion a chymunedau yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd y wybodaeth hon yn siapio datblygiad Cynllun Llesiant Lleol Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2023-28.
Bydd y Cynllun yn nodi'r amcanion llesiant i bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Gaerfyrddin.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Gwybodaeth am Covid-19

Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn ddiogel ac i reoli lledaeniad Covid-19 yn ein cymunedau.
Beth bynnag fo'r amgylchiadau presennol, rydym yma i'ch cefnogi. Mae gwybodaeth ar gael am y gefnogaeth sydd ar gael i chi, eich cymuned, neu eich busnes, gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.