Mae Cyngor Sir Gar yn bwriadu datblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Gwenllïan. Fel rhan o Raglen Moderneiddio Addysg yr awdurdod ac mewn cydweithrediad â Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, mae Ysgol Gymraeg Gwenllïan wedi'i nodi am fuddsoddiad.
Cynhelir ‘Noson Agored’ yn yr ysgol ar Ddydd Llun, Hydref 15fed, 2018, rhwng 5pm a 7pm. Pwrpas yr ymgynghoriad yw rhannu'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer yr ysgol.
Bydd cynrychiolwyr o'r Adran Amgylchedd sy'n ymdrin ag agweddau o'r dyluniad, a chynrychiolwyr o'r Adran Addysg yn bresennol i ddarparu gwybodaeth gyffredinol am y prosiect.
Gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i chi gymryd rhan yn y drafodaeth a gofyn cwestiynau ar y cynlluniau ar gyfer y datblygiad.
Mae croeso i bobl fynychu unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm.