Kidwelly Town Council Logo
Menu

Prosiect Limitless - Threshold DAS

Neges gan y Prosiect Limitless yn Threshold DAS sydd â chyrsiau hyfforddi am ddim:

Rydym bellach yn cofrestru ar gyfer cyrsiau hyfforddi am ddim yn y Flwyddyn Newydd, ar gyfer menywod sydd mewn cyflogaeth (amser llawn, rhan amser, contract dim oriau, ar ffyrlo, neu'n hunangyflogedig), sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Caerffili, Sir Benfro, Blaenau Gwent. Mae lleoedd yn prysur ddiflannu felly os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â mi i gofrestru ar y cwrs o'ch dewis, a fydd yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd ????

Mae'r cyrsiau rydyn ni'n eu cynnig wedi eu Achredu gan Agored

• Hyder Personol a Hunan Ymwybyddiaeth Lefel 2 Cymhwyster llawn.  Dilynwch y ddolen hon i weld taflen ar gyfer y cwrs (Saesneg yn unig).
• Iechyd Meddwl a Straen Lefel 2 Cymhwyster llawn
• Diogelu Cymhwyster Llawn Lefel 2
• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Lefel 2 Cymhwyster llawn
• Gwirfoddoli a Chymuned ac Ymgysylltu Lefel 2 Cymhwyster llawn
• Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2 Cymhwyster llawn
• Ymwybyddiaeth Trais yn y Cartref Lefel 1 (llawn gwybodaeth)

Mae pob cwrs yn ymrwymiad o tua 15/20 awr o'ch amser. Rydym yn cynnig cefnogaeth gan diwtor ar gyfer sesiynau tiwtorial os oes angen. Mae'r tiwtoriaid yn wybodus iawn. Felly rydyn ni'n rhagweld y byddwch chi'n ei orffen dros gyfnod o 3 i 4 wythnos. Darperir yr holl ddeunyddiau hyfforddi a gellir eu cwblhau ar liniadur, heb eu hargraffu, yn eich amser eich hun. Darperir sesiynau tiwtorial gan ddefnyddio Whats App, 'Zoom', dros e-bost, neges destun, ffôn, pa un bynnag sydd hawsaf i chi, yng nghysur eich cartref eich hun.

Mae gennym hefyd brosiectau sy'n cynnig hyfforddiant am ddim i bobl sy'n ddi-waith.

Ac mae gennym raglen o weminarau gyda'r pynciau a'r dyddiadau isod: -
• Cyfryngau cymdeithasol i fusnesau bach - 25ain Tachwedd am 5pm
• Byw gyda Blinder Pandemig - 2il Rhagfyr am 5pm. Gweler y daflen isod.
• Canllaw Goroesi'r Cyfnod Clo - 9fed Rhagfyr am 5pm
• Gwerthu crefftau ar Etsy - 16eg Rhagfyr am 5pm
• Sut i ddefnyddio Zoom yn effeithiol - 20fed Ionawr 2021 am 5pm
• Cyflwyniad i Farchnata - 27ain Ionawr 2021 am 5pm

Threshold DAS Limitless Project

E-bostiwch neu ffoniwch Debbie Williams os hoffech ragor o wybodaeth am bob cwrs:

Debbie Williams
Gweinyddwr Prosiect
Threshold DAS
Swyddfa 01554 700650
Symudol 07496 267361
dwilliams@threshold-das.org.uk

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.